Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/146

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mlynedd yn troi'n llawenydd digymysg yng ngorfoledd yr hen chwaer annwyl a'i chyfoedion duwiolfrydig. Ond yn y seiadau y byddai hi yn ei gogoniant yn fwyaf mynych, a llawer gwaith y datguddiodd hi bethau rhyfedd allan o'r gwirionedd drwy ei phrofiadau tanllyd a phur. Cof gennym am un seiat arbennig, pan yr ymddangosai pethau yn lled dywyll a diamcan ar y dechreu, ond gwyddai'r gweinidog, Tecwyn Parry, yn dda gan bwy yr oedd y pinoryn at gynneu'r tân, ac, wrth gwrs, at Sian Dafydd yr aeth am hwnnw, ac ni chafodd ei siomi. Gofynnai iddi am adnod, Salm neu sylw, cyngor neu ddatguddiad, gan fod pethau hyd yn hyn yn lled ddilewyrch. Safodd hithau, fel arfer, pan yn dweyd ei phrofiad, gan adrodd yn effeithiol y geiriau hyn o'r Salmau: Dyfnder a eilw ar ddyfnder wrth swn dy bistylloedd di. "Bobl annwyl," meddai'r gweinidog, Sian Dafydd, beth, mewn difrif, ydych yn ei gael mewn geiriau mor ddwfndreiddiol? Mae hyd yn oed James Hughes, Kitto, Matthew Henry, a'r esbonwyr yn myned heibio iddynt fel geiriau allan o gyrraedd eu hamgyffredion hwy." "O! machgen i," meddai hithau, " Dyfnder ei gariad ef, a dyfnder fy nhrueni innau, yn galw ar ei gilydd, yn swn tywalltiad ei Ysbryd," ac yna lediodd allan ar uchaf ei llais:

O! Ysbryd sancteiddiolaf,
Anadla arna'i lawr,
O'r cariad anchwiliadwy
Sy'n nghalon Iesu mawr!

Ni raid chwanegu am y dylanwad a ddilynodd, a thystiolaeth pawb ydoedd iddynt glywed y swn os nad y galw hefyd. Ei dymuniad olaf cyn marw ydoedd, ar iddynt ganu yn ei nghynhebrhwng hi yr un pennill ac a ganwyd yng nghynhebrwng ei mam, sef yw hwnnw,—

Afon fawr, mae'n rhaid myn'd trwyddi,
Rhwng dau fyd mae rhedfa hon;
Swn y dwr yw blin gystuddiau,
A deimlir ar y ddaear hon;
Rhwng ei thonnau byddai'n fuan
Mewn caledi mwya 'rioed,
O adnabod Iesu'n briod,
Fel bo'r gwaelod dan fy nhroed!

Bu farw Hydref 29, 1874, yn 86 mlwydd oed.