Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/151

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn unig y bu hynny. Rhy anghyfleus y teimlid llusgo i Ddin- orwig i'r moddion i gyd ar bob tywydd, ac hyd yn oed i'r plant i'r ysgol yn unig, yn enwedig o'r cyrrau isaf. Penderfynwyd y tro hwn gadw'r ysgol yn Rhos y bêl yn unig. Yr oedd tuag 20 o aelodau'r ysgol yn aelodau eglwysig, ac yn eu nifer yr oedd rhai athrawon da. John Roberts Bryn y bela oedd yr arolygwr cyntaf yng nghyfnod Rhos y bêl ar yr ysgol. Aeth Rhos y bêl yn rhy gyfyng i'r ysgol, er ei chynnal ym mhob ystafell o'r tŷ.

Penderfynu myned i'r ysgol i Ddinorwig eto, yr hyn a ddigwyddodd yn 1858. Yn ystod diwygiad '59 fe ddaeth agos bawb yma yn aelodau eglwysig. Fe deimlwyd oddiwrth y diwygiad yn fawr ar y pryd, a bu ei ol yma ryw gymaint am ddegau o flynyddoedd. Dechreuwyd meddwl o ddifrif am gapel, canys yr oedd rhyw feddylrith ohono yn bod o'r blaen. Gwthid y meddwl am dano yn fwy i sylw gan yr adeiladu yn yr ardal. Heblaw hynny, yr oedd capel Dinorwig ei hun yn orlawn erbyn hyn. Rhaid ydoedd naill ai wrth gapel wedi ei helaethu yn Ninorwig, neu ynte wrth gapel o newydd yn y Fachwen. Wedi ymdrafod ol a blaen, penderfynu o blaid y diweddaf. Sicrhawyd prydles ar y tir am 99 mlynedd o 1862 am ardreth o ddeg swllt yn y flwyddyn. Y tir yn 3297 llathen betryal, neu dros ddwy ran o dair o acr. Dyfynnir yma o'r ysgrif. "Pan gytunwyd adeiladu yr oedd £200 o ddyled ar Dinorwig, a chwanegwyd £6 16s. 8½c. ati yn 1862. Traul adeiladu'r capel yma, £725 8s. 4c.; y ddau swm ynghyd, £932 5s. olc. Cynulleidfa'r Fachwen yn tros- glwyddo'i hawl i adeiladau yn perthyn i Ddinorwig. Nifer aelodau Dinorwig, 208, a'u rhan o'r ddyled, £705 3s.; aelodau'r Fachwen, 67, a'u rhan hwythau, £227 2s. 0½c., ynghyda £200 am y tŷ. Cyfanswm y Fachwen, £427 2s. 0½c.

Gorffen adeiladu, 1862. Y gwasanaeth cyntaf, y Sul, Chwefror 23, 1862, ymhen II mlynedd i'r mis ar ol yr ysgol. gyntaf. Am 8.30, cyfarfod gweddi; am 10, Morris Hughes Felin heli, Pregethwr v., 1, 2; am 2, Robert Ellis Ysgoldy, Titus ii., 11, 12; ac am 6, I. Brenhinoedd xviii., 3 a rhan o 12. Y seiat gyntaf, nos Fercher, Chwefror 26, 1862. Rhif yr eglwys 67. Daeth Thomas Griffiths y Fuches isaf, y blaenor, o Ddinorwig, a galwyd ef yma. Ebrill 23, dewis John Pritchard, Thomas Davies a Robert Jones yn flaenoriaid. [Yr