Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/183

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dano: "Yr oedd ei wyneb i'r gogledd, tuag at ffordd neu lwybr Sarn y Crywiau, a'r drws neu y drysau yn yr ochr honno. Yr oedd tŷ capel ar y talcen nesaf i'r gorllewin (sef tuag at y Pôst yn awr). Adeilad hir, cul, ni a dybiem, ydoedd, a llawr pridd gyda meinciau, a chanwyllau ar y mur i oleuo; ac ar ol hynny gwnaed seren. Wedi hynny, hefyd, gwnaed sêt, sef sêt Prysgol, a sêt o flaen y pulpud. Cyn hir gwnaed croglofft, a thelid am y seti yn y groglofft. Yr oedd y pulpud a'i gefn ar fur ffrynt y capel, a chroglofft ar bob talcen." Ei faintioli, 34 troedfedd wrth 18, fel y dywed John Roberts Tanrallt yn hanes eglwys Cwmyglo.

Yr oedd "casgliad dimai" wythnosol yr aelodau i'r Cyf- arfod Misol mewn grym yn Sir Gaernarvon ar y pryd, a thalwyd y ddyled gan y Cyfarfod Misol allan o'r casgl hwn. Talwyd yr arian mewn gwahanol symiau o Gorffennaf, 1798, hyd Hydref, 1805. Y cyfanswm ydoedd £131 5s. 7c. (Cofiant Michael Roberts, 156-168.)

Heblaw capel, yr oedd hefyd dŷ capel ymhlith yr adeiladau a delid am danynt yn y dull yma. Diau y gwnawd llawer o waith yn rhad gan yr aelodau eu hunain. Fe symudodd teulu Twll y clawdd i gadw'r tŷ capel, ac yno y buont am bedair neu bum mlynedd a deugain. Mab y William Williams yma a Margaret Griffith ei wraig oedd John Williams y pregethwr, a anwyd yn y tŷ capel hwn Rhagfyr 14, 1799.

Yn y flwyddyn 1799 y symudodd John ac Ellen Roberts o'r Eithinog Ganol yn Llanllyfni i fyw i'r Castell, Llanddeiniolen. Dyma gychwyniad "teulu'r Castell." Bu'n flaenor yn Llanrug hyd nes symud o hono i'r Ysgoldy, pan gychwynnwyd eglwys yno yn 1808. Aeth 17 o aelodau yr eglwys yma gydag ef i'r Ysgoldy. Yr oedd wedi ei alw yn flaenor yn Llanllyfni, yn fuan ar ol symud yno o ardal mynydd Parys, lle bu'n gweithio am ysbaid o amser, a thybia Robert Ellis y gallai ei fod yn flaenor ym Môn cyn symud oddiyno. (Gweler Ysgoldy.) Tua'r flwyddyn 1799 y symudodd Robert Roberts a'i deulu o Fachwen i Blaenycae. Fe fu William Sion Caecorniog farw yn 1804, ond nid ymddengys fod llewyrch neilltuol ar yr ysgol ers blynyddau, hyd nes y daeth Robert Roberts, yr hwn a ymaflodd ynddi o ddifrif. Yr ymdrechion hyn gyda'r ysgol fu'n gychwyniad i'r seiat blant. Robert Pritchard Tyddynelen a gychwynnodd y gyntaf o'r seiadau hynny yn 1807. Bu'r seiat