arfer ar y rhif yng nghysylltiadau'r diwygiad yn yr hanes yma. am y bu argraff ddarfod dadwneud effeithiau'r diwygiad yma. Fe welir, wrth ystyried i'r chwanegiad fod mor fawr yn ystod tymor y diwygiad, ddarfod cadw rhif yr eglwys yn dda yn ystod. y blynyddoedd dilynol. Mae'n wir fod yma gynnydd graddol. parhaus yn y boblogaeth, fel yn gyffredin yn yr ardaloedd chwarelyddol yn y blynyddoedd hynny. Yn y 6 blynedd rhwng dechre 1853 a diwedd 1858, cynnydd o 15; yn y 5 mlynedd rhwng 1858 ac 1863, cynnydd o 133, sef yr un nifer a nifer dychweledigion y diwygiad.
Yn 1859 dewis Richard Parry Llain y gro a Richard Evans ty capel at y tri blaenor oedd yn aros ers 1844. Bu Richard Evans yn cadw'r tŷ capel yn ystod 1850-73, pryd y symudodd i'r Gatehouse. Gwr o ddeall bywiog, a dawnus fel siaradwr ac fel athro. (Gweler marwnad amdano yn hanes y Gatws.)
Fe wasanaethodd John Williams, y pregethwr, yr achos yn rhad hyd y flwyddyn 1862. Y pryd hynny fe ddaethpwyd i gytundeb âg ef, ei fod i dderbyn y swm o £5 y flwyddyn am ei lafur, a pharhaodd y cytundeb mewn grym hyd ddiwedd ei oes ef. Yr ydoedd wedi dechre pregethu yn y flwyddyn 1829 neu yn ymyl hynny, a bu farw Tachwedd 19, 1869, yn 70 mlwydd. oed. Fe'i cloffwyd wrth ei waith yn y chwarel, ond nid ymddengys p'run ai cynt ynte wedyn y dechreuodd efe bregethu. Eithr hynny fu'r achos iddo ddechre cadw siop. Yn blentyn, fe gafodd fagwriaeth y tŷ capel; yn wr, fe feithrinodd yntau'r had sanctaidd yn Nhŷ Dduw. Diau ddarfod cydnabod ei wasanaeth gan Wr y Tŷ. Dangosai wir ofal calon am yr eglwys yn fanwl gyda'r cyfrifon, yn fedrus yn yr arweiniad. Ni ordeiniwyd mohono, ond yr oedd yn wir fugail praidd Crist. Yn y nodiad arno yn y Dyddiadur Cyfundebol fe ddywedir ei fod yn onest a di-ddichell ei ysbryd, ac yn wr darllengar. Fe chwanegir nad oedd odid neb yn fwy hysbys nag ef yng ngweithiau'r prif awduron Piwritanaidd ac anghydffurfiol, ac y meddai ar wybodaeth dda a barn dra chywir ymherthynas â symudiadau yr oes yn wladol a chrefyddol. Dywed gohebydd yn y Goleuad (1869, Tachwedd 27, t. 11) ddarfod iddo dderbyn addysg yng Nghaerlleon a'i gwnaeth yn gyfarwydd yn y Saesneg.
Bu Owen Owens Glan llyn farw Ionawr 31, 1867, yn 78 oed, yn flaenor ers 29 mlynedd. Gwr tawedog, ond heb flew ar ei