Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/190

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn 1881 fe godwyd R. T. Williams yn bregethwr. Aeth yn weinidog i eglwys Seisnig Wrexham, ac yna i gapel Seisnig Argyle, Abertawe.

Bu'r blynyddoedd 1884-5 yn adeg o ddiwygiad lleol nodedig. Fe ymddengys iddo ddechre yn Nisgwylfa ac ymestyn i Lanrug a'r Cysegr. Yn Sasiwn Awst yng Nghaernarvon, fe gafodd Owen Thomas oeda neilltuol ar y geiriau yn Rhuf. viii., 32: "Yr hwn nid arbedodd ei briod Fab, ond a'i traddododd ef trosom ni oll; pa wedd gydag ef hefyd na ddyry efe i ni bob peth." Torrodd allan yn orfoledd o dan y bregeth. Yr oedd y bobl ieuainc oedd yno o'r Disgwylfa yn cipio'r tân. O dan y bregeth honno y teimlodd pobl ieuainc Llanrug radd o ddwyster. (Edrycher Disgwylfa.)

Yn 1887 fe ddewiswyd yn flaenoriaid, Thomas Evans Rhos- ddu a T. J. Lloyd. Bu Thomas Evans farw Hydref 6, 1892, yn 63 oed. Fe ddywedir ddarfod iddo lafurio yn galed i ddiwyllio'r tyddyn y preswyliai arno, ac ychydig cyn ei ddiwedd ei brynnu yn ddrud drachefn. Gwelodd gladdu ei blant i gyd. Er ei orthrymderau hynny, fe gafodd yn ei gystudd poenus diweddaf fêl i'w enaid o'r Graig Crist.

Ar Mawrth 31, 1889, bu farw John Roberts Rhoselen yn 77 oed. Llanwodd y swydd o flaenor am 51 mlynedd. Ei rieni a fu yn golofnau yn yr eglwys o'r dechre. Bu ar adegau yn arwain canu, yn cyhoeddi, ac yn drysorydd yr eglwys; ond bob amser yn barod i drosglwyddo unrhyw waith i arall cymhwys. Gallai fod yn llym yn erbyn drwg, a deuai ei eiriau oddiwrtho weithiau fel pelennau tân. Yn nghyfrinach cyfeillion yn rhydd i adrodd ei brofiad ysbrydol.

Yn 1889 codwyd O. Selwyn Jones yn bregethwr. Bu yn y Bala, ac aeth yn weinidog i Abergynolwyn, yna Dolyddelen, yna Deganwy.

Yn 1893 fe ail-ddewiswyd Richard Parry ynghyda Hugh Roberts Buarthau. Yn 1889 galwyd Rowland O. Williams yn flaenor, a fu cyn hynny yn flaenor yn Brynrefail; ac yn 1896 galwyd Hugh W. Hughes, a fu cyn hynny yn flaenor yng Nghlynnog.

Yn 1896 fe godwyd W. J. Owen yn bregethwr. Aeth i fyw i Fangor, ond ei enw ar restr pregethwyr Môn.

Yn Ebrill, 1897, daeth cysylltiad y gweinidog, y Parch. J. Eiddon Jones, â'r eglwys i ben, drwy ei waith ef yn ymddi-