dwys, ebe'r Gwaen gynfi, ond yn ddyn llawn a chrefyddol, ac mor addfwyn, fe debygid, nad oedd cymaint gwaith i ras arno, fel yr oedd y dywediad gan yr hen bobl. Hoff gan bawb. Pan arferid nodi dyn arbennig dduwiol, William Ifan fyddai'r enghraifft ddewisedig. Rybela yn y chwarel yn niwedd ei oes, ac yn o dlawd. Galwai un gwr, yn yr olwg ar William Ifan, ar enw'r gwr drwg, gan sicrhau ei gyd—weithwyr na chae'r hen Gristion ddim bod yn hwy heb glytiau am ei gorff. Yr ydoedd o deulu Methodistaidd, ei dad yn flaenor ar y cynllun mwyaf dewisedig o'i flaen, ac yr oedd ei gorff a'i feddwl a'i nodweddiad yntau ei hun wedi cwbl ymddelweddu i'r ffurf Fethodistaidd, fel y gallesid ei adnabod ar unwaith, debygir, fel y cyfryw. Sicrha'r Gwaen gynfi na welodd gystal batrymau o fywyd crefyddol a'r eiddo Sion Ffowc, Robert Ifan y Celyn a William Ifan yr Ysgoldy.
Yn 1867 adeiladu tŷ gweinidog. Codwyd y cerrig a chludwyd hwy a defnyddiau eraill yn rhad. Y draul, ar wahan i hynny, £313. Derbyniodd y Parch. Robert Ellis alwad yr eglwys yma a Disgwylfa i'w bugeilio yn nechreu 1868, a daeth i fyw i'r tŷ capel, Gorffennaf 22. Yn niwedd 1878 terfynu'r cysylltiad â Disgwylfa. Mae sylw yma yn nyddiadur y gweinidog ar ddiwedd 1868: "Yr wyf fi a Jane Ellis [y wraig] wedi disgyn mewn ty newydd cyfleus, heb ddim i ofalu am dano ond gwasanaeth teyrnas yr Arglwydd Iesu. O na allwn ymgysegru yn llwyr i waith a gwasanaeth yr Arglwydd!"
Mai 12, 1869, galw Griffith Williams yn flaenor, yn flaenor yn y Graig cyn dod yma. Yn 1874 dewis yn flaenoriaid,— Robert Jones Pen yr olchfa, Griffith Jones Blaen y waen, William Griffith Cefn coed. Yn 1874, Edward Ffoulkes yn ymadael i Ddinorwig. Yn 1876 yr Ysgoldy a'r Disgwylfa yn ymwahanu oddiwrth ei gilydd fel taith Sabothol.
Hydref 27, 1879, bu farw Robert Roberts Dorlan goch yn 73 oed, yn flaenor yma ers 26 blynedd. Gwr o feddwl cryf ac annibynnol. Sylw Robert Ellis arno ydyw ei fod yn wr o feddwl grymus—y tuhwnt i'r cyffredin o ran ei feddwl." Er yn benderfynol, ni chyfrifid mono yn anhawdd cyd-weithio âg ef. Gwybu am dlodi yn ei flynyddoedd bore, a chlywyd ef yn dweyd mewn Cyfarfod Misol, fod yr Arglwydd yn sicr o ofalu am y tlawd gonest, ei fod yn sicr cyn diwedd oes o'i waredu o afael anhawsterau bywyd. Fe'i clywyd, hefyd, yn adrodd ei brofiad