Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/234

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cyfarfod difyrrus a buddiol. Mehefin 21. Mae'r eglwysi wedi blino ar yr areithio yma. Medi 27. Derbyn pedwar o blant gobeithiol, Edward E. Ffoulkes yn un. 1868. Awst 11. Cyf— arfod Misol mawr a lluosog. Popeth yn pasio yn hynod of gysurus. Diolch, diolch. Rhagfyr 10. Cyfarfod darllen. Mae hwn yn cau myn'd, fel pob peth da. 1872. Awst 5, 6. Helynt fawr yr wythnos hon yma fu'r Cyfarfod Misol. Caed cyfarfodydd da iawn ddydd Mawrth, ond wfft i ddydd Llun! Vestri hollol. 1873. Ionawr 25. Y Temlwyr Da yn myned allan i ddangos eu hunain am y tro cyntaf. Chwefror 23. Yn y limbo yn lân. Y bregeth bore ddoe [yn yr Ysgoldy] wedi rhewi cyn yr Amen. Ow o honof! Mai 9. Good Templars. Hyn yn dechre llacio. Pob peth yn fethiant. Awst 8. Sefydlu Teml newydd. Methiant. Ai methiant sydd i fod ar bob peth yn yr hen gapel hwn? Mor boenus! popeth yn pallu! 1874. Tachwedd 26. Concert. Pw, pw! 1876. Seiat. Pob peth yn marw. Beth ddaw o'r hen Ysgoldy? Awst 14—5. Cyfarfod Misol Ysgoldy. Casglwyd ato, £20. Cynhulliad lluosog. Cyfarfodydd da. Beth fydd y ffrwyth. Crist yn ganolbwynt y weinidogaeth. Y Nadolig. Cyfarfod llenyddol. Go dda hefyd. 1878. Hydref 30. Seiat. Llipa, llipa. Dim awydd am seiat mwy. 31. Nid aethum i Frynrefail. Mae'r llipryn seiat fu yn yr Ysgoldy wedi lladd pob awydd am seiat drachefn. 1880. Ionawr 30. Dr. O. Thomas yn darlithio ar yr hen bregethwyr. Da iawn. Mai 31. Cyfarfod gweddi'r proffeswyr ieuainc. Dyma hynny o lygeityn sydd ar yr achos. Tachwedd 3. Seiat. Ow, ow, o'r achos! Mae'n marw i'm' canlyn.

Yn 1883 O. G. Owen yn ymsefydlu yma fel bugail. Yn 1884, derbyn yn flaenoriaid,—J. W. Jones, W. W. Prichard, G. W. Griffith, J. E. Williams.

Yn 1889, gan nad oedd gweithredoedd yn perthyn i'r adeiladau, y Gymdeithas fa a'r Cyfarfod Misol yn tynnu allan weithredoedd ac yn pennu ymddiriedolwyr. Yn 1894 derbyn yn flaenoriaid,—R. O. Williams, O. J. Jones.

Bu farw Robert Jones, Ionawr 23, 1896, yn 78 oed, yn flaenor yma ers 22 flynedd. Y gweinidog, mae'n ddiau, dan y llythrennau O. G. O., yw'r cofnodydd yn y Goleuad (1896, Mawrth 4, t. 4), ac fel hyn y dywed (gan grynhoi): "Ei nodweddion pennaf oedd hynawsedd tawel a boneddigeiddrwydd