Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/253

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tyddyn bach, a John Daniel a oedd mewn gwasanaeth yn yr ardal. I Danrallt y deuai'r rhai'n i'r ysgol, ac yr oedd gwas— anaeth John Rowland yn neilltuol o werthfawr. Yr oedd y rhai yma yn aelodau yn Llanrug: Y blaenor, Robert Williams y Garreg goch a Sian William ei wraig, Joseph Thomas Tan— rallt, Owen Jones Ysgubor a Margaret Jones ei wraig, William Jones Tŷ conglog ac Elizabeth Jones ei wraig, Robert Rhys y Dinas, William Griffith y Lon las, Ann Thomas Tŷ conglog, Elizabeth Thomas Tyddyn y perthi, Gaenor Herbert Tyddyn bach, Ellis Jones y Crug, Catherine Roberts Carreg goch. Y pedwar arddeg hyn a ffurfiwyd yn gangen o eglwys Llanrug, canys yno yr aent eto i gyfranogi o Swper yr Arglwydd. Fe flaenorai Robert Williams ar y ddeadell fechan yn Nhanrallt, gan barhau yn flaenor yn Llanrug.

"Yr oedd rhyw gymaint hynodrwydd yn amryw o'r hen frodyr a chwiorydd hyn. Yr oedd John Rowland ymlaen ar ei oes. Meddai ar lawer o wybodaeth gyffredinol ac ysgrythyrol, ac yr oedd yn lled hyddysg mewn hanesiaeth eglwysig. Fe'i cyfrifid yn feddyg lled fedrus, yn enwedig fel meddyg esgyrn. Eithr yn yr ysgol y gwelid ei ragoriaethau amlycaf, yn enwedig mewn holwyddori. Ni chlywsom am neb mwy ymdrechgar ac amcanus i ddodi'r gwirionedd yn neall y rhai a holid, a'i gymhwyso â chymaint o fin at eu cydwybodau a'u calonnau. (Edrycher Moriah.) A Sian Parry ei wraig oedd hynod ymhlith hen chwiorydd hwyliog y dyddiau hynny, a gorfoleddodd lawer yn ei dydd.

"Yr oedd Joseph Thomas Tanrallt yn hynod am ei ddywediadau cyrhaeddgar. Wrth ddychwelyd o wrando pregeth ar brynhawn Sul yn Llanrug, eb efe wrth ei gydymaith,—'Mi ddysgais bennill newydd heddyw yn Llanrug; ac erbyn hyn, dyma Satan wedi myned ag ef bob gair. Nis gwn i beth wna âg ef: ni chân o mohono byth.' Bu ef farw yn 1824. "Yr oedd Robert Williams y Garreg goch yn ofn i weithredoedd drwg yn ei oes. Ni glywsom amryw yn dweyd wedi iddynt fyned yn hen bobl, fel y fföent rhagddo yn llanciau hyfion a rhyfygus. Dychryn cysgod marwolaeth iddynt fuasai i Robert Williams eu canfod yn chware ar y Sul. Nid cyfoeth a roes iddo'r fath ddylanwad, nid gwybodaeth na doniau, ond eiddigedd tanllyd yn erbyn pechod, a'i ffyddlondeb yn rhybuddio'r drygionus i adael eu drygioni. (Edrycher Llanrug.)