Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/258

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dŷ capel newydd, helaethach a mwy cyfleus na'r un yr aeth Fy hanes fy hun drwyddo i olwg y seiat. Y draul i gyd, £132 1s. 10c.

Yn 1843 daeth y Parch. Hugh Roberts yma o'r Borth. Ymadawodd i Fangor, Mawrth, 1845. Yr oeddid wedi dewis William Herbert yn flaenor yn 1844. Gan ei dderbyn i'r Cyfarfod Misol fel pregethwr, Awst 30, 1849, rhaid ei fod wedi cychwyn pregethu oddeutu dechre 1848, neu gynt. (Edrycher Cysegr.) Daeth y Parch. Rhys Jones yma yn 1847. Yn 1851 dewis Solomon Jones Tan y buarth yn flaenor. Ymadawodd i'r Cysegr ar gychwyniad yr eglwys yno yn 1864. (Edrycher Cysegr.)

Helaethwyd y capel eto, ac agorwyd yn 1851. Y draul, £149 8s. 7c. Rhif yr eglwys y pryd hwn, 75.

Bu farw Evan Herbert, Mehefin 27, 1855, yn 78 oed, yn flaenor yma o'r cychwyn. Ffyddlon i'r gwasanaeth ei hun, gan annog â dwyster teimlad i'r un ffyddlondeb yn eraill. Cadarn yn yr ysgrythyrau. Fe lefarai ar brydiau âg awdurdod. Meddai ar graffter naturiol; a phrofodd ei hun yn arweinydd diogel mewn anhawsterau. Yr ydoedd yn llym yn erbyn drygau, ac, ar yr un pryd, yn ddilychwin ei hun. Fe'i cymherir yn yr ysgrif o'r lle i berson y plwyf yn y Deserted Village gan y Dr. Johnson,—"He speaks with double tongue." Sef, fod ei fuchedd a'i broffes yn cyfateb. A chwanegir y perthynai rhyw gysondeb a chyfartaledd i bopeth a wnae. Mae'r disgrifiad ohono yn atgoffa am William Herbert. Nod angen tad a mab ydoedd mantoliad cywir, a phwys yn y ddau ben: barn a chywirdeb ydoedd y ddau ben ymdrechgar; nid ymdrechgar yn erbyn ei gilydd, fel cyfoeth a thlodi, ond o blaid ei gilydd, neu rhoi argraff ddedwydd o ragoriaeth a thrylwyrder. Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig. Yn 1856, dewis yn flaenoriaid, William Evans Brynffynnon a William Rowlands Tanymaes. Bu William Rowlands farw yn 1870, yn 64 oed; William Evans yn 1886, yn 84 oed. Cyferbyniadau oedd y rhai'n: fel y ddwy elfen mewn fferylliaeth, os unir hwy, a gynhyrchant elfen newydd heb fod yn y naill na'r llall ar wahan. Dichon fod greddf yr eglwys yn ymdeimlo â hynny wrth eu cyd—ddewis. Tebyg oeddynt o dan y wyneb; annhebyg ar y wyneb. Ebe Mr. John Williams: "Meddai'r ddau ysbryd gwresog, ac yr oedd eu hymlyniad wrth y gwaith