Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/336

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Sul; ond yr oedd yr eneiniad yn amlycach yn y seiat honno, a threiddiodd gwirionedd y bregeth yn ddyfnach i galonnau. Er gwrando ohonof ar y bregeth y Sul, ond odid y cofiaswn ddim am dani onibae am y seiat honno.

"Fe gododd nifer luosocach o bregethwyr yn Nisgwylfa nag odid mewn un eglwys arall mewn cyn lleid amser. [Ond wrth gymeryd rhagoriaeth y dynion eu hunain i'r cyfrif yr ymddengys y nifer mor luosog.] Mi glywais rai yn ceisio rhoi cyfrif am hynny. Fe'i priodolir gan amryw i'r cyfarfodydd llenyddol a fu mewn bri yn yr ardal. Eithr fe berthynai eglwysi eraill i'r undeb llenyddol nas gallent gystadlu à Disgwylfa yn rhif y pregethwyr a godwyd ganddynt. Mi dybiaf fod a fynno'r sylw a gaffai'r weinidogaeth yn y seiat yn fwy na dim arall a'r peth. Mewn ambell seiat, pan deimlid fod pregeth wedi gafael yn ddwfn yng nghalonnau dynion, gan droi yn faeth a nerth ynddynt ar eu pererindod drwy'r ddaear, naturiol. teimlo mai'r gwaith mwyaf dyrchafedig a'r rhagorfraint uchaf y gallasai dyn ymgyrraedd ato, oedd bod yn gyfrwng mewn dwyn sylw at wirioneddau tragwyddoldeb.

"Yr oedd yno amryw frodyr a fuont ffyddlon ac ymdrechgar gyda'r plant. Un o'r rhai pennaf oedd John Hughes Cae main. Gwr cyffredin ei alluoedd, ond llawn ynni gyda'r ddau fyd. Gweithiai yn y chwarel y dydd, a gweithiai ar ei dyddyn yr hwyr. Drwy ddirfawr lafur, gan dreulio ambell noswaith yn tyllu a saethu cerrig wrth oleu'r lloer, y gwnaeth ran o lethr mynydd gwyllt yn rhyw ddyffryn ffrwythlon a phrydferth fel gardd. Fe ddanghosai yr un cyfryw ymroddiad mewn crefydd. Dilynai'r moddion yn gyson; a bu'n dra llafurus gyda'r plant. Cynhaliai gyfarfodydd holwyddori. Diddorol fyddai ei glywed yn holi'r plant ar ddiwedd ysgol, wedi iddo'n flaenorol, yn ei gyfarfodydd gyda hwy, eu cyfarwyddo mewn ateb pob holiad. Tra gofalus ydoedd am y foes-wers ynglyn â phob holiad. Ac wrth egluro honno, fe ofalai am y cwestiwn yn y Rhodd Mam, A ddylem ninnau wneuthur yr un modd? Yn niniweidrwydd ei galon, fe'i cludid braidd ymhell gan hynny ar dro. Wrth holi ar hanes y dilyw un tro, a'r plant ar uchaf eu llais yn ateb, fel y rhag-baratoisid nhwy, ac wedi dod at yr adroddiad am y creaduriaid yn myned i mewn i'r arch, fe ofynnodd, ymha rhyw fodd yr aent i mewn? 'Bob yn ddau,' ebe'r plant. Sut?' 'Bob yn ddau,' bloeddiai'r plant. Bob yn ddau, pa sut?'