Ellis. Dywed y Methodistiaeth fod tuag 20 milltir o ffordd o'r Ysbyty Ifan i Lanberis, a bod y ffordd honno ar y fath fwyaf disathr a pheryglus. Erbyn drannoeth, wedi cerdded o'r hanes am dano o amgylch, synnu a wnaeth ar bawb ei glywed. Pan ddeallodd Pyrs William y Gwastad nant fod y fath ddyn i bregethu y noson wedi hynny, fe roes ar gyhoedd y mynnai efe ei wrando, gan nad allai fod dim llai na rhywbeth hynod. mewn gwr dierth a deithiai dros Fwlch rhyw ychen yn y nos. Yn y modd yma y paratowyd Pyrs William i dderbyn y genadwri a lynodd yn ei galon. A phenderfynodd yntau, fel Robert Ellis o'i flaen, agor ei dŷ i bregethwyr. Erbyn hyn, ebe'r ysgrif, wele ddau o ddrysau yn agored yn Llanberis i'r Efengyl.
Mae'r Methodistiaeth yn rhoi hanes am Hugh Thomas, cynghorwr o Leyn, ar ffo rhag ei wneud yn sawdiwr, yn derbyn nodded yn y Cwmglas. Fe gyfeiriwyd Hugh Thomas yno gan lafurwr a fu yno y ddau gynhaeaf gwair blaenorol. Yn ystod y cyntaf o'r ddau gynhaeaf, fe gychwynnodd y llafurwr hwnnw wasanaeth teuluaidd yno; a dyna fel y daeth crefydd i'r teulu. Gan mai un o'r cynghorwyr cyntaf oedd Hugh Thomas, a'i fod ef yn gyfryw ar y pryd, ac mai ar ol ymweliad cyntaf Howel Harris â Lleyn y cychwynnwyd cynghori ganddo ef a rhai eraill, fe ddaw yn gasgliad go naturiol mai William Harri yn 1742 a roes yr ysgogiad cyntaf amlwg ymhlaid Methodistiaeth yma. Ni arhosodd Hugh Thomas nemor yma. Yr oedd ofn ar y teulu rhag ei lochesu, a chyweiriwyd gwely iddo mewn ogof yn yr Wyddfa, lle'r arhosai ddydd a nos, y bugail defaid yn cludo bwyd iddo. Bu yn yr ogof wythnosau cyn cael caniatad i ddod i'r tŷ i gysgu, pryd y ffoai i'r ogof yn ol ar doriad dydd. Wedi hynny, fe gafodd ganiatad i aros yn y tŷ am gwbl o'r amser. Yn y man fe ddychwelodd adref, gan gadw ei hun yn guddiedig yno drachefn am ysbaid. (Methodistiaeth Cymru, ii., 134.) Tebyg fod hyn i gyd wedi digwydd cyn dyfodiad William Harri yma.
Nid yw'r ysgrif yn y Drysorfa, na'r Methodistiaeth ychwaith, yn crybwyll am ymweliad Howel Harris âg yma. Yr oedd traddodiad o'i ymweliad â'r Waunfawr, ond nid âg yma. Eithaf tebyg iddo fod yma, fel yn y Waunfawr, fwy nag unwaith. Mae ei eiriau ef ei hun, a ddyfynnwyd yn yr hanes am Waunfawr, allan o'i lawysgrifau, yn rhyw amgrymu hynny: "Many heard now as did not before." Am y Waunfawr y