Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yna fe eisteddodd i lawr ynghanol cymeradwyaeth fyddarol, ac ni fu sôn y rhawg am y pwnc hwnnw o le. A chwanegir gan William Davies am y gweinidog oedd ar y blaen, feallai, yn yr ymdrech i rannu'r Cyfarfod Misol, fod ei siom yn gymaint fel na fynnai ddod i'r Capel Coch am ysbaid rhai blynyddoedd. Fe sonir am dano fel cynrychiolydd i'r Gymdeithasfa, anrhydedd a ddigwyddodd iddo amryw weithiau. Yng Nghymdeithasfa Abergele, 1863, cyflwynid gan y Cyfarfod Misol ddau i'w hordeinio. Yr oedd yno ryw wrthwynebiad go bendant, a neb llai na Henry Rees yn un o'r gwrthwynebwyr. Ond dyma ef ar ben y fainc, er mwyn amlygrwydd i'w ddadl, a llwyr ddymchwelodd y byrddau ar y gwrthwynebwyr, gan gario'r pwnc â mwyafrif mawr. Wedi'r cyfarfod, fe holai Henry Rees, "Pwy oedd y dyn bach hwnnw, tybed?" Sylw go hoff ganddo pan ymosodid ar y blaenoriaid fyddai hwnnw, fod eisieu i flaenor fod fel sach gwlan, yn derbyn cic ac yn codi'r dolc.

Yn 1891 derbyniwyd yn flaenoriaid, Thomas Hughes a D. Roberts. Hefyd, daeth G. J. Hughes yma o'r Ceunant, a galwyd ef yn flaenor.

Bu farw William Griffith, Tyddyn Eilian, Hydref 31, 1893, wedi ei ddewis yn flaenor yn 1866. Brodor o Fangor a ddaeth ma pan tua 10 oed. Yr ydoedd yn nai i Griffith Ellis y goruchwyliyr. Darllenodd rai o lyfrau Huxley a Tyndall. Fe gafodd flas anarferol ar Natural Law Drummond, ac ar ei Greatest Thing in the World. Yr oedd yn ddiwinydd cryf ac yn Galviniad pybyr. Er hynny, yr oedd rhyw naws o eangder ac amlochredd yn ei garictor a'i ddarllen. Er yn wr bucheddol erioed, bu am gryn ysbaid heb wneud proffes amlwg. Yr ydoedd yn y seiat ers 35 mlynedd cyn y diwedd. Pan ddaeth. i'r seiat ar noson waith, daeth yn eithaf tawel ei ddull, wedi llawn fwrw'r draul, a phenderfynu'r pwnc yn ddi droi yn ol. Fe ddechreuodd weithio ar unwaith â'i holl egni yn yr ysgol. Boneddigaidd ei fryd a phur ei ymarweddiad. Ennillodd barch. cyffredinol. Efe a ofalai am yr agerbeiriant a gludai'r llechau o'r chwarel, a daeth yn hysbys i'r meddiannydd a'r goruchwylwyr; ac fel y "grand old man grand old man " yr adwaenid ef ganddynt yn ei flynyddoedd olaf. Fel disgyblwr yn yr eglwys yr ydoedd ar unwaith yn gydwybodol ac yn dyner, ac yr oedd ei weinyddiad ar ddisgyblaeth a'i duedd i ymgeleddu, nid i galedu. Fe geisiai gynorthwyo rhai a welai â'u bryd ar wella eu hunain o