Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Methodistiaid yn Nghorris gael ei phregethu tua'r adeg uchod. Wedi hyn, bu pregethu mor aml ag y gellid ei gael, yn gyntaf yn Llain-y-groes,a thrachefn am yspaid dwyflynedd yn yr Ysgubor goch. Ond yr oedd dygasedd yr hen sarff yn llesteirio i'r efengyl gael arosiad hir yn unlle; eto yr oedd yn ennill calon ambell un. Yn y flwyddyn 1790, yr oedd yno bump wedi cael blâs ar fara y bywyd, sef Dafydd Huniphrey a'i wraig, Jane Roberts, Jane Jones, a Betty Lewis. Wedi i ddrysau eraill gau, buwyd yn pregethu ar ben careg, wrth ddrws tŷ annedd, ar dir Dafydd Humphrey. Gelwid y tŷ hwn yr Hen Gastell; ac wedi ymadawiad y gŵr a'i preswyliai y pryd hyny, gosododd ef i ŵr arall am ychydig o ardreth, ar yr ammod fod pregethu i fod ynddo." (Methodistiaeth CYMRU, i. 580.)

Y "gŵr arall" hwn ydoedd Vaughan Jones, yr hwn oedd gefnder i Dafydd Humphrey, ac hefyd yn dipyn o fardd. Yma, yn yr Hen Gastell, y mae yn ymddangos y dechreuwyd cynal cyfarfod eglwysig yn 1790, pan nad oedd ond pump yn aelodau. Bydded i enwau y rhai hyn gael eu cadw byth mewn parchus goffadwriaeth.

Nid annyddorol fydd ychydig grybwyllion am danynt. Preswyliai Betty Lewis mewn tŷ bychan, ychydig yn nes i Dal-y-llyn na'r Hen Gastell, a elwid yr Hen Shop. Merch iddi ydoedd Cadi Ifan, gwraig John Richard, yr hwn y daw ei enw gerbron yn y benod nesaf, fel un o gydlafurwyr ffyddlonaf Dafydd Humphrey. Wyrion i Betty Lewis gan hyny ydoedd Howell Jones, Cell Iago, yr hwn a grybwyllir mewn cysylltiad â chychwyniad yr achos Methodistaidd yn Aberllefenni; Evan Jones, yr Hen Shop; a Betty Shôn, Tŷ'r Capel.

Mae dyddordeb neillduol yn perthyn i enw Jane Jones, Aberllefenni, fel y gyntaf a ymunodd â'r Methodistiaid o deulu sydd erbyn hyn yn lliosog a dylanwadol yn eu plith. Merch yr hen balasdy ydoedd; ac yr oedd iddi un brawd a phedair o chwiorydd. Y brawd ydoedd y gŵr a fu yn hir wedi hyny yn adnabyddus fel y Parchedig Owen Jones, o'r Glyn, gerllaw Talsarnau. Yn ei ofal ef yr oedd plwyfi Llandecwyn a