Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llanfihangel-y-traethau; ac efe hefyd ydoedd goruchwyliwr etifeddiaeth Mr. Gore yn Talsarnau. Enw y chwaer hynaf ydoedd Anne, yr hon a ddaeth yn wraig i Mr. Griffith Evans, Tymawr, Towyn. Yr oedd yn nain i'r diweddar Mr. Evans, Maesypandy,—gŵr a fu yn dra adnabyddus a dylanwadol flynyddoedd yn ol, a'r diweddar Mr. Evan Evans, Tymawr; a hen nain i'r Parchedig Griffith Evans, Cynfal. Yr ail ydoedd Catharine, yr hon a ymbriododd â Mr. Poole, Egryn, Dyffryn, ac a gynrychiolir yn awr gan deulu lliosog a pharchus. Merch iddi hi ydoedd Fanny, priod y diweddar Barchedig Richard Jones, o'r Wern; a mam Mr. Griffith Jones, Tymawr, Towyn. Merch arall iddi ydoedd Jane, priod Mr. Rees Davies (a elwid Rhys Dafydd), Taltreuddyn Bach, Dyffryn, a naill y Parchedig William Davies, Llanegryn, a Mrs. William Pryse Jones, Liverpool, a llawer eraill. Y drydedd ydoedd Ellen, priod Mr. Owen Jones, Crynllwyn, Towyn. Hi oedd mam y diweddar Barchedig Owen Jones, Gelli, Sir Drefaldwyn, a nain y gŵr o'r un enw, ac o'r un lle yn bresenol. Pa un o'r ddwy chwaer eraill, Jane a Jannett, oedd yr hynaf, nid yw yn gwbl sicr. Dywedai y ddiweddar Mrs. Grifflth Thomas, Aberystwyth, mai ei mam, Jannett, oedd yr ieuangaf. Ymbriododd Jannett â Mr. David Davies, Skinner, Machynlleth; ac yn mynwent Machynlleth y claddwyd hi a'i phriod, a phedwar o'i phlant. Bu farw Mrs Davies, Tach. 1af, 1822, yn y 75ain flwydd o'i hoedran. Meibion idd hi oeddynt Meistri David Davies, Garnachen Wen, Swydd Benfro, a Robert Davies, Aberystwyth, a merched iddi oeddynt Mrs. Griffith Thomas, a Mrs. Edward Jones, Aberystwyth. Bu farw un ferch iddi, Jane, yn ddibriod. Mr Robert Davies ydoedd tad y Parchedig David Charles Davies, M.A, Bangor; Mr. R. J. Davies, U.H, Cwrtmawr; Mrs. Richard Roberts, a Mrs. D. Jenkin Davies, Aberystwyth. Mab i Mrs. Roberts ydyw Dr. R. D. Roberts, o Caergrawnt. Jane, mae yn ymddangos, arosodd yn Aberllefenni; a gŵr o'r enw Mr. Evans oedd ei