Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o Adgofion y diweddar Barchedig Robert Griffith, Dolgellau, am yr helynt, yn y 'Drysorfa' 1847 :—"Tua'r amser hwn, yn y flwyddyn 1794 neu 1795, darfu i Mr.Corbett, o Ynys—y~maengwyn, ymroi i erlid y Methodistiaid; gorfododd i'r brawd William Hugh, Llanfihangel, dalu ugain punt o ddirwy am bregethu heb license ; dirwyodd eraill am roddi eu tai i bregethu ynddynt heb eu recordio, ac eraill i bum' swllt yr un am wrando yn y cyfryw leoedd. Nid oedd y Methodistiaid hyd yn hyn yn eu harddelwi eu hunain fel Ymneillduwyr feallai am fod amryw o Offeiriaid yn perthyn i'r Corph, ac mai Offeiriaid yn benaf oedd ei sylfaenwyr; ac fel hyn nid oedd gan neb o'r pregethwyr license i bregethu; canys nid oedd cyfraith i'w hamddiffyn ond fel rhai dan y cymeriad o Ymneillduwyr. Ond yr amser hwn gorfu ar yr holl bregethwyr yn y Gogledd gymeryd license; a chofrestrwyd y capelau yn nghyd a thai annedd i bregethu ynddynt. Daeth llythyr o'r Bala i Ddolgellau yn hysbysu fod modd gochelyd talu y ddirwy am bregethu mewn tai oedd eto heb eu cofrestru, trwy gymeryd y llwon gofynedig cyn pen pum niwrnod wedi cael y rhybudd cyfreithiol, os da yr wyf yn cofio, a pheidio pregethu yn y manau hyny hyd y Chwarter Sessiwn. Aeth y brawd Hugh Lloyd, un o flaenoriaid Dolgellau, a minau, yn ddioed i Gorris, at Vaughan Jones, ac i Lannerch coediog, at Griffith Owen, dau ŵr a rybuddiasid i dalu y ddirwy o £20 bob un; a phrydnawn yr un diwrnod aethom dros Afon Mawddach i Llanenddwyn at Mr. Owen, ac i Hendre'forion at Mr. Parry, dau ustus heddwch, i gymeryd y llwon angenrheidiol; ac felly yr aeth yr ystorm heibio."

Os dychwelodd y ddau ŵr hyn i Ddolgellau yr un noson rhaid fod eu taith y diwrnod hwnw yn rhywle oddeutu haner cant o filldiroedd. Wedi dirwyo William Pugh, gwnaed ymgais 'ddal Lewis Morris; ond diangodd ef i Lwyn-y-gwair, yn Sir Benfro, hyd Chwarter Sessiwn y Bala. Dodwn i lawr hanes yr hyn a ddigwyddodd yno yn ngeiriau y Parchedig John Hughes :—"Yn y cyfamser, yr oedd chwarter sessiwn y Bala gerllaw, a darpariaeth wedi ei gwneuthur i geisio yno amddiffyn y gyfraith, trwy alw am gyfreithiwr enwog, o Gaer y pryd hwnw, ac ar ol hyny o'r Cymau, gerllaw Caergwrle, yr hwn oedd ymneillduwr ei hun. Dangosai ynadon Sir Feirionydd bob anmharodrwydd i drwyddedu