Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nghyd ag eraill, o'r farn mai hyny oedd eu dyledswydd; ond gwrthwynebwyd hyn yn gryf gan eraill, ac yn benaf gan y brodyr o Sir Gernarfon, gan na fynnent er dim gael eu cyfrif yn Ymneillduwyr.

Canlyniad a fu i ddirwy o £20 gael ei osod ar William Pugh; £20 ar dŷ yn Nhywyn; £20 ar dŷ yn Mryncrug; ac £20 ar dŷ yn Llannerch-goediog. Parodd hyn, fel y gellid meddwl, fraw a syneigaeth trwy y wlad. Deallwyd fod boneddwyr eraill yn bwriadu wneyd yr un peth a C—t. Bu capel Dolgellau yn nghauad un Sabbath, mae'n debyg oblegid yr arswyd a ddaliasai y pregethwyr fyned allan heb eu trwyddedu. Dygodd yr amgylchiadau hyn y mater mewn dadl i lwyr benderfyniad, a hyny yn bur fuan. Nid oedd eisieu rheswm mwyach o blaid Ymneillduaeth; yr oedd llais yr erledigaeth yn uwch na llais rheswm, ac o hyny allan ni fu un petrisder mewn un fynwes i gymeryd trwydded, ar gyfrif fod yn rhaid ei chymeryd ar dir Ymneillduaeth. Ac yn y cyfwng hwn yr anfonwyd, fel y dywedasom eisoes, am David Francis Jones, Ysw, i'r Bala; a thrwyddo y caed nodded y gyfraith rhag y gorthrwm blin hwn. "—Methodistiaeth Cymru; i. 599.

Yr unig adgof dymunol mewn cysylltiad a'r erledigaeth hon o eiddo y boneddwr o Ynys Maengwyn ydyw fod lle i dybio iddo cyn ei farwolaeth weled ei gamgymeriad, a theimlo rhyw radd o ddygasedd at y rhai a garient chwedlau iddo am y Methodistiaid, ac a'i cymhellent i'w herlid. Ond beth am y chwedleuwyr?

Er cael llonyddwch oddiwrth yr erledigaeth, bu ei heffeithiau yn aros am dymor. "Wedi yr erledigaeth uchod (yr ydym yn dyfynu o'r ysgrif yn y Drysorfa' 1840), aeth yr olwg arnom yn isel iawn gan ein digalondid a'n hofn; ond ni lwyr ddiffoddodd y tân sanctaidd yn eneidiau y ffyddloniaid. Pan geid ambell bregethwr i'n plith, dygai yr hen wragedd tamaid iddynt mewn napcyn, ac a'i gosodent mewu twll yn y mur tra parhai yr oedfa; byddai hiwnw yn lled flasus. Trwy y weinidogeth yr amseroedd hyny deffrowyd amryw am eu cyflwr, nes cynyddu .or eglwys i o 15 i 20 o rifedi."

A phruddaidd yw sylwadau y Parchedig Robert Griffith, ar ol y dyfyniad a wnaed uchod:—