Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ardal. Ac nid hawdd i ni bellach ydyw rhoddi y gwerth priodol ar ei lafur, gan y gofyn i ni ymdrech neillduol i sylweddoli ei anfanteision.

Yn 1785 nid oedd ond pedwar o gapelau yn Sir Feirionydd, sef yn y Bala, Penrhyn, Dolgellau, a Ffestiniog. Ac yn yr un flwyddyn, nid oedd un pregethwr i'w gael o Roslan yn Sir Gaernarfon, hyd Machynlleth yn Sir Drefaldwyn. ('Methodistiaeth Cymru i. 572, 574.) Yr oedd eisoes, (yn 1780), yn y Bala rai cynghorwyr heblaw yr Hybarch John Evans. Y flwyddyn hono y dechreuodd Dafydd Cadwaladr bregethu; yn 1791 y dechreuodd Lewis Morris; ac yn 1793 y dechreuodd Robert Griffith, Dolgellau. Yn 1785 yr ymunodd Mr. Charles a'r Methodistiaid. Pan glywid fod pregeth yn cael ei disgwyl yn un o'r ardaloedd cylchynol,—Llanwrin, Towyn, Machynlleth, Dolgellau—cytunid ar fod cwpl o'r meibion yn myned yno, ac yn dwyn yn ol gyda hwynt yr hyn y gallent ei gofio i'r chwiorydd gartref.

Fel y dywedwyd eisoes, nid oedd ond tri o frodyr yn perthyn i'r gymdeithas fechan am lawer o amser; a'r rhai hyn oeddynt Dafydd Humphrey, Richard Anthony, a Lewis Pugh. Symudodd y diweddaf i ardal y Cwrt, ac oddiyno drachefn i gymydogaeth Llwyngwril neu y Bwlch. Os nad ydym yn camgymeryd, yn Bodgadfan y preswyliai; a merch iddo oedd gwraig gyntaf y diweddar Mr. William Owen, Bodgadfan. Bu y gwr hwn yn hynod ffyddlawn am lawer o flynyddoedd. Cymerwyd ei le yn yr Hen Gastell gan John Richard, yr hwn a elwid bob amser Shôn Rhisiard. Yn y cyfnod boreu hwn ystyrid fod un athraw yn ddigon yn yr Ysgol Sabbothol fel yn yr Ysgol Ddyddiol; ac arosai y tri brawd gartref yn eu tro. Tro Shôn Rhisiard oedd ar un adeg pan yr elai Dafydd Humphrey a Richard Anthony i Fryncrug, i wrando ar y seraph, Robert Roberts, o Glynnog, yn pregethu; ond yr oedd y caethiwed yn ormod i'r hen frawd ; a chyn i'r ddau eraill gyraedd pen eu taith, yr oedd