Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y trydydd gyda hwynt yn myned am ran o'r un wledd. Ni byddai y chwiorydd yn digaloni er eu gadael eu hunain. Bu yn arfer am flynyddoedd, oherwydd arswyd y Ffrancod, gadw cyfarfod gweddi ddeuddeg o'r gloch bob dydd Mercher; a mynych y lluddid y brodyr gan gyfyngder eu hamgylchiadau i—fod yn bresenol. Ar yr adegau hyn byddai y chwiorydd yn gweddio eu hunain. Un tro torodd un chwaer i lawr, a chyfarchodd chwaer arall, "Gweddia di, Catrin bach, mae rhywbeth arna' i, y'r ydw' i yn misio." Dywedai un oedd yn bresenol na welodd gyfarfod mwy effeithiol erioed.

"Cadw tŷ yn y nos" y bu y brodyr a'r chwiorydd,—yn hytrach y tadau a'r mamau hyn; ond buont yn hynod ffyddlawn. Agorodd Dafydd Humphrey ei dŷ i dderbyn gweision yr Arglwydd ar eu hymweliadau ar gymydogaeth. Bu Mr. Charles yn y lle rai troion ; a chofiwn rai hen wragedd a adroddent gyda pheth ymffrost iddynt hwy, pan yn enethod, gael eu holwyddori ganddo. Un o'r rhai hyn oedd y ddiweddar Sarah Jones, Abercorris. I Dafydd Humphrey y gofynai Mr. Charles un tro pan yn myned heibio, "A oes yr un ceiliog yn canu yn ardal yr Ystradgwyn yma, Dafydd ?" "Nac oes, yr un," ebe yntau. "Ow, Ow," meddai Mr. Charles. "Codwch Ysgol Sabbothol yma." Ac felly y gwnaed. Bu D. H. ac eraill yn myned yno am amser i gadw ysgol, a chyfarfod gweddi: ac yn llwyddo yn achlysurol i gael ambell bregeth i'r gymydogaeth. Lled anhywaith oedd pobl yr Ystradgwyn y pryd hwnw ; ac adroddir i'r Parchedig John Roberts, Llangwm, orfod troi o'r maes unwaith heb bregethu, gan ei adael yn meddiant gwŷr y bel droed. Cafodd hamdden i bregethu mewn lle arall i'r ychydig a'i dilynasant. Dafydd Humphrey a fu yn chwilio am le i Lewis William gadw ysgol yn yr ardal ac yn Dolydd Cae y cafwyd drws agored. Tad y diweddar Mr. John Owen—Owen Dafydd—a wnaeth y caredigrwydd hwn, a hyny yn benaf er mwyn pump o fechgyn oedd