Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ganddo mewn angen am addysg. Yn y gegin y cynhelid yr ysgol; a byddai y wraig yn gwneyd gwaith y tŷ yn y nos, er mwyn rhoddi tawelwch i'r athraw gyda'i ddisgyblion yn ystod y dydd. Nid ydym yn gwybod i sicrwydd a oedd yr Ysgol Sabbothol wedi ei dechreu cyn hyn; Dywed Mr. John Owen, Ty'nymaes, yr hwn sydd ŵyr i'r Owen Dafydd uchod, mai o ysgol Lewis William y bu ei chychwyniad. Bu Dafydd Humphrey, Richard Anthony, Shôn Rhisiard, a Richard Owen, Ceiswyn, (yr hwn a grybwyllir eto), oll yn ymdrechgar gyda'r gwaith yn ei wendid. Yn Ty'n y Wins, gerllaw y capel presenol, y buwyd yn pregethu gyntaf gyda gradd o gysondeb. Tua'r flwyddyn 1828 yr adeiladwyd y capel yno; ac ar ffurfiad yr eglwys ymunodd â hi o 25 i 30 o aelodau Corris. Ond ymddengys mai i Gorris y buont yn myned i gyfranogi o'r ordinhad o Swper yr Arglwydd am flynyddoedd. Y Parchedig John Peters, Trawsfynydd, a weinyddodd yr ordinhad hon gyntaf yn yr Ystradgwyn.

Mae ychydig ansicrwydd am yr amser yr adeiladwyd y capel cyntaf yn Nghorris. Ar y gareg yn mur y capel y mae yr ysgrifen ganlynol:

Rehoboth
A adeiladwyd y tro cyntaf—1813;
" " " " Yr ail dro—1834;
" " " " Y trydydd tro—1869;

Ond yn y 'Drysorfa,' 1840, dywedir mai yn 1816 yr aed ati o ddifrif i addladu capel. Pa un bynag o'r ddau ddyddiad sydd yn gywir, gwelir i fwy na 30 mlynedd wedi dychweliad Dafydd Humphrey, a mwy nag 20 mlynedd wedi cychwyniad ffurfiol yr achos,—os bu y fath gychwyniad o gwbl—fyned heibio cyn i hyny gymeryd lle.

Dywed y Parchedig Robert Owen, M.A Pennal, wrthym fod cofnodau y Cyfarfod Misoi yn dangos mai yn 1832 yr adeiladwyd capel yr Ystradgwyn. Nid ydym yn gwybod pa fodd i gysoni hyn a'r hanes uchod a gawsom oddiyno. Nid yw :yn debyg i•r Parchedig John Peters fod yno ar ol 1832, y blwyddyn y cyfarfu A damwain a'i hanalluogodd i fyned nemawr oddicartref hyd ddiwedd ei oes yn 1835