Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd.pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn mhrofiad Dafydd Humphrey—neu yr oedd diogelwch yr—efengyl yn ffaith fyw; a'i amcan mawr. ar hyd ei oes fu cael ei gymydogion i feddiant o'r un peth ag oedd wedi ei brofi yn ei ysbryd ei hun. Yr oedd arno, ofn rhagrith yn yr eglwys. Ei genadwri olaf o wely angau gyda William Richard ac Owen Jones,—dau o'r blaenoriaid—ydoedd, "Dywedwch wrthynt oll am ymofyn am grefydd dda; Mae crefydd llawer yn darfod yn angau." Ond yr oedd yn hollol ymwybodol fod y gwirionedd ganddo ef ei hun. Teimlai bryder gyda golwg ar ei wyrion, a'i gyngor olaf iddynt oedd, "Byddwch fyw yn dduwiol; rhodiwch ar hyd canol llwybrau barn. Gweddiwch a gwyliwch rhag i chwi byth adael eglwys Dduw." A theimlai bryder hefyd gyda golwg ar ddyfodol yr eglwys. Ddeuddydd cyn ei farwolaeth,—felly yr adroddir yn y 'Drysorfa'—" galwodd ar y brawd Rees Jones, Bermo, at ei wely a dywedodd wrtho :—' Mewn perthynas i'r cyfeiliornadau sy'n codi y dyddiau hyn yn nghylch gwaith yr ysbryd Glan, dymunaf i chwi adael chwareu teg i'r TRI ddyfod i'r maes yn iachawdwriaeth pechadur. Cedwch ddigon o glychau o'u deutu; a gweddiwch lawer na chaffoch byth eich gollwng i'r fath dir a gwadu yr angen am Ei waith.'" cyhuddwyd aml un o'r 'cyfeiliornad' hwn yn y cyfnod uchod yn bur ddiachos; ond y Mae yn amlwg fod yr hen batriarch o Abercorris ei hunan yn weddol iach yn y ffydd, ac yn dra awyddus pan yn ymyl tragwyddoldeb am i'r praidd, ar ol ei ymadawiad ef, gael derbyn "y gwirionedd fel y mae yn yr Iesu." Wedi llefaru y geiriau uchod, dywedodd "ddarfod i'r Arglwydd ddaw y byddai Efe yn Dduw iddo yn nechreu ei grefydd; a bod y 'cyfamod' yn dal yn y dymestl." A chanodd y llinellau:—"

'Does bwlch yn hwn, fel modrwy 'n grwn y mae
A'i glwm mor glòs, heb os nac oni bae."

Bu farw Rhagfyr 19, 1839, yn 83 mlwydd oed. Claddwyd ef yn mynwent Talyllyn a dyma yr argraff ar gareg ei fedd:—