Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yma y claddwyd

Humphrey Davies Ty'nyceunant

a Mary Howells ei wraig.

Efe a fu farw
Ionawr 24 1785
Yn 70 mlwydd oed
Hi a fu farw
Awst 24 1804
Yn 86 mlwydd oed

Hefyd

Eu Mab David Humphreys, ABERCORRIS.

ac Elisabeth Owens ei wraig

Efe a fu farw
Rhagfyr 19 1839
Yn 83 mlwydd oed.
Hi a fu farw
Gorphenaf 22 1834
Yn 74 mlwydd oed.

Paham y gelwid ei wraig Elisabeth Owens nid ydym yn sicr. Merch ydoedd, fel y gwelwyd, i Jane Roberts, y Rugog. Digon tebyg mai Owens oedd cyfenw priod Jane Roberts. Gwelir mai mab Ty'nyceunant oedd Dafydd Humphrey. Dywedasom eisoes mai yn Eglwys y plwyf y priodwyd hwy Chwefror 27, 1781 Buont ill dau yn byw gyda'u gilydd am fwy na 53 mlynedd.

Mae hanes yr hen batriarch hwn yn llawn addysg ymhen chwe' blynedd a deugain wedi ei farwolaeth, Fel y sylw'a Mr. Daniel Evans, yn yr hanes o ba un y gwnaethom ddyfyniadau mor fynych yn y 'Drysorfa,' "golwg isel iawn fu ar achos yr Arglwydd am y deugain mlynedd cyntaf yn Nghorris." Cyn y diwygiad yn 1819 nid oedd ond o 15 i 20 yn aelodau, er y buasent ar un adeg cyn hyny yn rhifo ychwaneg; ond erbyn marwolaeth yr hen batriarch, yn 1839, yr oeddynt yn rhifo o 180 i 190 Ac yn y diwygiad uchod cafodd D. H. y fraint o weled braidd yr holl blant y buasai yn eu dwyn i'r Ysgol yn y blynyddoedd gynt wedi eu dwyn i mewn i'r eglwys. Gweithiodd yn ffyddlon dan anfanteision mawrion, ac y mae y gymydogaeth hyd heddyw yn dra dyledus am y wedd sydd arni i'w lafur ef.