Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwnaed yn y benod flaenorol gyfeiriad at Richard Anthony, fel clochydd Talyllyn, yn gwrthod cyhoeddi arwerthiadau amaethyddol ar y fynwent ar ol y gwasanaeth crefyddol ar ddydd yr Arglwydd. Yr oedd efe yn un o'r blaenoriaid cyntaf yn eglwys Corris. Bychain oeddynt ei ddoniau yntau; ond yr oedd yn hynod ffyddlon a chydwybodol. Yr ydym yn cofio yn dda hen rigwm, fu yn bur adnabyddus yn yr ardal am fychander ei ddoniau; ond nid ydym yn tybio y gwnaem unrhyw wasanaeth i grefydd wrth ei ddodi i lawr yma. Daw enw R. A. gerbron eto mewn cysylltiad â Rowland Evans.

Gwr a lanwodd le pwysig yn y cyfnod boreuol hwn yn eglwys Corris, er na bu erioed yn swyddog ynddi, ydoedd Shôn Rhisiard, yr Hen Shop. Yr oedd yn ehangach ei wybodaeth, ac yn helaethach ei ddoniau na'r brodyr oeddynt yn flaenoriaid yno, ac yn hynod mewn gwirionedd fel gweddiwr. "Mi hoffwn, Dic bach," meddai unwaith wrth Richard Anthony, "allu gweddio nes gwneyd plwyf Talyllyn yma yn nefoedd i bawb o'i fewn."

Tlawd a helbulus iawn oedd yn wastad o ran ei amgylchiadau. Cyfeiriwyd mewn penod flaenorol at ei siwrnai i le gerllaw yr Abermaw, i geisio ychydig o rûg yn ddefnydd ymborth iddo ef a'i deulu. Bu raid iddo gychwyn yn y boreu heb damaid o fwyd, a cherdded o 15 i 18 milldir i geisio y rhûg. Cafodd ar lawr, ar y glaswellt, yn rhywle ar ei daith, ddernyn chwe' cheiniog, yr hwn oedd yn ychwanegiad gwerthfawr at yr ychydig oedd ganddo i brynu. Cymerodd y rhûg ar ei gefn i'w falu yn Melin Aberllefenni; a rhaid oedd iddo aros i hyny gael ei wneyd, a myned a'r blawd adref drachefn i'r Hen Shop, a'i bobi yno cyn cael dim ymborth. Rhwng y lle y saif yn awr Tan yr allt ac Abercorris, teimlai yn hynod luddedig a digalon; a dywedai ynddo ei hun :—"Fy Nhad nefol 'rydw' i'n meddwl fy mod i yn un o dŷ blant di; ond yr wyt ti yn gwneyd yn bur galed â mi heddyw." Yr oedd erbyn hyn yn hwyr, ac yn lled