Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

frwd iawn am flynyddoedd, a'r teimladau a gynyrchid trwyddynt yn dra chwerwon. Dywedai Rowland Evans am y dadleuon hyn, fod y naill blaid a'r llall yn ymddwyn megis pe na buasai yn yr holl Feibl ond rhyw ddwsin o adnodau, a'r rhai hyny oll ar y materion mewn dadl rhwng y ddau enwad. Erbyn hyn y maent ymhlith y pethau a fu, a'r teimladau chwerwon wedi hen ddiflanu. Ein perygl bellach ydyw difrawder hollol am bob athrawiaeth; ac os disgynwn i'r tir hwn bydd yr amryfusedd diweddaf yn waeth na'r cyntaf.

Dywedwyd wrthym mai yn 1838 yr adeiladwyd capel Carmel, yn ymyl y ffordd newydd, yr ochr arall i'r afon ar gyfer Rehoboth. ac mai yn 1853 yr helaethwyd ef. Yn 1866 yr adeiladwyd Siloh, y trydydd o gapeli y Wesleyaid yn yr ardal. Yr un achos oedd yn y tri. Ymhen rhai blynyddoedd ar ol adeiladu Siloh yr adeiladwyd capel yn agos i Dy'n y ceunant, gerllaw y fan y cychwynwyd yr achos y tro cyntaf.

Yn 1824 yr adeiladwyd Acchor, capel yr Annibynwyr, gerllaw Rhywgwreiddyn. Prif golofn yr achos yno oedd Hugh Pugh. Yn 1850, ar y 27ain a'r 28ain o Fedi, y symudwyd yi achos i Ben—y—graig, Corris; ac yn 1869 yr adeiladwyd Salem, y capel presenol, mewn lle mwy canolog a chyfleus. Yn 1855, ac yn benaf trwy lafur y diweddar John Stephen, yr adeiladwyd capel cyntaf yr Annibynwyr yn Aberllefenni; ac yn 1871 yr adeiladwyd, ar yr un llanerch, y capel presenol. Acchor oedd enw y cyntaf, a Bethesda yw y newydd.

Wnaed cais flynyddoedd lawer yn ol gan frawd a breswyliai yn Twrnpike Cefnyclawdd, i sefydlu yn y Capel Bach achos i'r Bedyddwyr; ond hyd yma y tri enwad uchod yn unig sydd yn meddu achosion yn y gymydogaeth. Y mae oddeutu 25 mlynedd er pan adeiladwyd yr eglwys newydd yn Nghorris gan y diweddar Ardalydd Londonderry.