Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd.pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD IV

HUMPHREY DAVIES, ABERCORRIS

Crybwyllwyd eisoes mai mab i Dafydd Humphrey, Abercorris, ac Elisabeth ei wraig, ac ŵyr i Jane Roberts, Rugog, ydoedd gwrthddrych y benod hon. A chrybwyllwyd yn mhellach mai efe ydoedd eu hunig fab, er fod iddynt dair o ferched. Yn 1790 y ganwyd ef. O'i febyd yr oedd o duedd fywiog a chwareus; ac ymdaflai i chwareuon plant y gymydogaeth yn y modd mwyaf egniol. Rhagorai ddigon ar y cyffredin o honynt i fod yn fath o frenin ac arweinydd iddynt. Cyflawnodd wedi tyfu i fyny rai gorchestion gyda'r bêl droed ar Fawnog Ystradgwyn; ac yr oedd 'hela y llwynog' yn demtasiwn iddo wedi cyraedd addfedrwydd oedran. Yn Nghadair Idris un tro yr oedd y cwn yn rhy luddedig i neidio dros gagendor fechan er cyraedd at y gagendor; a gwnaeth H. D. bont iddynt drosti ei gorff ei hun.

Ond er mor chwareus, yr oedd bob amser yn ŵr ieuanc bucheddol; a dechreuodd fod dan argraffiadau crefyddol yn lled foreu. Pan oedd tua phum' mlwydd oed, torodd diwygiad crefyddol allan ymysg y plant; ac yn yr oedran tyner hwnw bu rhyw bethau hynod ar ei feddwl. Adgofion am y diwygiad hwn oeddynt y rhai boreuaf a arosasant gydag ef ar hyd ei oes am gyfnod ei febyd. Ymhen blynyddoedd ar ol hyn y bu yn