Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd.pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwrando pregeth gan John Elias yn Machynlleth, oddiar y geiriau, "Dan yr afallen y'th gyfodais," &c. (Caniad Solomon viii. 5). Mor fawr fu effaith y bregeth hono ar ei natur fywiog, fel y gwaeddodd allan; a dyfnhawyd yn fawr yr argraffiadau boreuol ar ei feddwl. Edrychai yn wastad ar yr odfa hon fel amgylchiad pwysig yn hanes ei fywyd. Mynych y dywedai wrth gyfeirio ati :—" Bum yn ddigon drwg lawer gwaith wedi hyny, ond nid anghofiais byth yr odfa hono, a'r hyn a deimlais ynddi."

Heblaw yr addysg a gafodd yn yr ysgol gyda Lewis William, ymddengys iddo fod am ryw dymor mewn ysgol yn Kerry, Swydd Drefaldwyn; a thrwy wneuthur defnydd da o'i fanteision, daeth yn ysgolhaig lled wych yn ol safon addysg yn yr oes hono. Bu am beth amser yn dysgu galwedigaeth lledrwr gydag ewythr iddo, yr hwn, meddir, oedd yn byw ar y pryd yn Penygareg Fach, gerllaw y Rugog, ond anfonwyd ef, pan oedd tua 17 mlwydd oed, i Dremadog, i ymberffeithio yn yr alwedigaeth Arosodd yn y lle hwnw am oddeutu dwy flynedd a haner Nid ymddengys iddo ef, mwy na phlant eraill yn yr oes hono, er yr argraffiadau crefyddol dwysion ar ei feddwl, gael ei ddwyn i fyny yn yr eglwys; ac un o'r camgymeriadau mwyaf difrifol y syrthiodd yr hen Fethodistiaid iddo ydoedd cau y plant allan o'r cyfarfodydd eglwysig. Pwy a ddichon draethu y colledion a gafodd Methodistiaeth a chrefydd ein gwlad trwy hyn! Trwy ei amddifadu o'r fraint hono yn blentyn cawn H. D. yn llanc ieuanc, 17 mlwydd oed, yn troi oddicartref i ardal ddieithr, heb fod mewn cysylltiad â eglwys Dduw; ond ymddengys iddo barhau yno yn gwbl ffyddlon i foddion gras, a derbyn llawer o garedigrwydd oddiar law y brodyr crefyddol yn y lle, ac yn enwedig oddiwrth y Parchedig John Jones. Siaradai yn barchus hyd ddiwedd ei oes am sirioldeb y gŵr da hwn.

Wedi dychwelyd i Gorris bu yn dilyn yr alwedigaeth uchod am nifer o flynyddoedd mewn adeilad yn Penybont. Pan oedd