Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd.pdf/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwelwyd mewn gwraig gyfuniad prydferthach o rinweddau Cristionogol. Ychydig, erbyn hyn, yw y rhai sydd yn ei chofio; ond yn nghalonau y rhai hyny y mae ei choffadwriaeth byth yn fendigedig.

Bu hefyd yn fam wir ofalus. Yn ei chladdedigaeth, sylwai y Parchedig H. Evans iddi adael wyth o blant ar ei hol, heb weled yr un o honynt wedi gadael gwinllan Crist, a golwg obeithiol y byddant yn golofnau yn nhŷ Dduw tra y byddant ar y ddaear. Erbyn hyn y mae pump o honynt wedi dilyn eu mam, heb fod erioed allan o eglwys Dduw, a rhai o honynt wedi arwain bywyd nodedig o grefyddol. Y pump hyn oeddynt Mr. David Davies, Abercorris; Mrs. Elisabeth Evans, Penllwyn; Mrs. Mary Jones, Pimlico, Llundain; Mrs. Eleanor Edwards, Llundain; a Miss Hannah Davies, Abercorris. Y tri sydd eto yn aros ydynt Mr. Richard Davies, Llundain; Mr. Humphrey Davies, Abercorris; a Mrs. Jane Jones, Bryngoronwy, Llanwrin.

Yn ei chystudd diweddaf, bu am beth amser yn lled dywyll ar ei meddwl, ond gwawriodd arni er hyny cyn hir. Pan ymwelodd un brawd â hi, cyn iddo ef agor ei enau, dywedodd, Wel, John bach, mae cadarn sail Duw yn sefyll o hyd yn ddi—gryn. Gwyddoch na bum i erioed yn meddu ar brofiadau uchel; llin yn mygu, na wyddech chwi na minau beth oeddwn ar y goreu; ond heddyw y mae yn ddigon goleu. Mae'r afael sicraf fry. Diolch iddo byth am gofio llwch y llawr, o'm bath i.

Yn nesaf at y brofedigaeth uchod, o golli ei anwyl briod, rhaid crybwyll marwolaeth Hannah, merch ieuangaf H. D, yr hon wedi marwolaeth ei mam a phriodas ei chwaer Eleanor, a ofalai am ei dŷ. Adeg hynod o ystormus ar y teulu a fu dechre'r haf 186O. Mai 7, bu farw Elisabeth Davies, merch henaf David Davies, Abercorris, yn 22 mlwydd oed; a Mehefin 6, bu farw ei modryb, Hannah Davies, yn 26 mlwydd oed. Cymerwyd y ddwy ymaith gan dwymyn boeth, a bu Humphrey Davies, ieu, mewn enbydrwydd mawr am ei einioes yntau. Yr oedd