Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd.pdf/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ei sylwadau, fel nad oedd un amser gyfarfod marwaidd yn bosibl yn y man lle y byddai.

Gyda golwg ar ddisgyblaeth eglwysig yr oedd yn wastad yn wir ofalus. Nid oedd yn llym nac yn erwin; ond yr oedd goddef y rhai drwg er hyny yn beth na ddymunai. Byddai yn dra chydwybodol i athrawiaethu a chynghori yn yr eglwys, i gyfarwyddo yr ieuenctyd yn arbenig pa fodd i ymddwyn, ac yn hynod sylwgar ar eu hymddygiadau ymhob lle, fel y rhoddai iddynt bob cymorth yn ei allu er eu cadw o afael disgyblaeth eglwysig; ond os gwelid angen am y wialen gwyddai yn dda pa fodd iw defnyddio. Cyn y ffeiriau yn Machynlleth a Dolgellau, neu ryw achlysuron eraill y byddai ieuenctyd mewn temtasiynau arbenig arnynt, ni esgeulusai un amser roddi gair prydlawn o rybudd iddynt; gan eu cymell yn wastad i ystyried yr Enw mawr oedd arnynt, ar bwys o fod yn wyliadwrus rhag iddynt mewn un man na thrwy unrhyw ymddygiad dynu dianrhydedd arno. Gwyliwr effro ydoedd ar y mur; gwyliwr na chafwyd un amser yn hepian; a dydd y farn yn unig a ddengys y daioni a wnaethpwyd trwy ei gynghorion ai rybuddion caredig ac amserol.

Cafodd y dosbarth ieuanc ei sylw manylaf ar hyd ei oes. Bu yn hynod ymdrechgar i gael y blant i ymddwyn yn briodol yn nhŷ yr Arglwydd. Nid ydym yn gwybod a oedd plant yr ardal hon yn fwy direidus na phlant ardaloedd eraill; ond gwyddom iddo ef orfod llafurio yn galed iw cael i ymddwyn yn weddus yn yr addoliad. Adwaenai hwynt bob un, a chymerai sylw o honynt ymhob man. Gwyliai hwynt yn yr addoliad, ac os gwelai ddau o honynt yn siarad â'u gilydd yn ystod y gwasanaeth, cymerai fenthyg ffon Hugh Humphrey, y Pentre, ac un atynt yn ddistaw a diarwybod iddynt i weinyddu iddynt gerydd byr ac effeithiol gyda'r ffon; neu ynte os na byddai y ffon wrth law tarawai ben y ddau hogyn gyda pheth cydynrwydd y naill wrth y llall, a dychwelai yn ol i'r sedd fawr