Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymgasglent ar y groesffordd gerllaw ei dŷ i chwedleua a chellwair, a mynych yr aflonyddai ar eu heddwch os na lwyddai iw cael i roddi heibio eu harferiad ffol.

Fel swyddog eglwysig bu yn dra gofalus i gyfodi crefydd yn y teulu. Galwai sylw yn fynych at yr angenrheidrwydd am lywodraeth deuluaidd, ac am y pwys o fod yn gyson gyda'r addoliad teuluaidd. Perthynai i'r hen ysgol o grefyddwyr a swyddogion; ond yr oedd yn hynod rydd oddiwrth ei diffygion ac yn dra amlwg yn ei rhinweddau. Ni feddyliodd neb erioed am ddywedyd ei fod yn gul mewn syniad na theimlad; ond yr oedd yn ddibetrus yn ei wrthwynebiad i bob drwg, ac yn ei gefnogaeth i bob daioni. Ac er perthyn ei hun i'r hen ysgol, nid oedd un amser yn anmharod i fyned ymlaen gyda symudiadau newyddion o duedd ddaionus.

Bu yn gwneuthur gwaith bugail ei hun am lawer o flynyddoedd; ond nid oedd neb yn fwy parod nag efe i gofleidio Bugeiliaeth eglwysig pan y daeth. Yr oedd, yn wir, yn hynod ystwyth yn wastad, ac yn llithro rywfodd yn arweinydd pob symudiad, er i'r symudiad gychwyn yn meddyliau brodyr eraill. Rhoddodd y derbyniad siriolaf i'r Parchedig Evan Jones yn awr o Gaernarfon, y bugail cyntaf a alwyd gan yr eglwys, yn 1867; ac wedi hyny ychydig misoedd cyn ei farwolaeth i'r Parchedig William Williams. A bu yn , cydweithio hefyd yn hapus am flynyddoedd âg amryw frodyr eraill—un yn weinidog a phump yn bregethwr sef Mr. Corris Jones (at yr hwn y gelwir sylw eto); Mr. John Jones, Cwm celli (wedi hyny o Brynteg); Mr. Thomas Williams, wedi hyny o'r Dyffryn; y Parchedig Ebenezer Jones, wedi hyny o Abergynolwyn; Mr. David Davies, Geuwern; a Mr. Hugh Roberts. Ni theimlai un amser fod neb yn myned ai le; ac ni lochesodd erioed am foment deimladau eiddigeddus tuag at neb o'i frodyr. Gormod fyddai dywedyd iddo ar hyd ei fywyd gydweled â hwynt oll; ond parai pob anghydwelediad ofid