Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd.pdf/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

calon iddo, a bu ar bob amgylchiad yn llawn ystwythder a maddeugarwch.

Nid ydym yn petruso datgan ein syniad ei fod yn model o swyddog eglwysig; ac yr ydym yn credu yr edrychid arno felly gan y gwyr craffaf ai hadwaenent. Cofus genym glywed Mr. Morgan, o'r Dyffryn, un tro, pan yn dadleu yn y Cyfarfod Misol yn erbyn cydnabod yn flaenoriaid mewn eglwys flaenoriaid wedi symud iddi o eglwys arall, yn dywedyd, Pe bae Mr. Humphrey, Davies, Corris, yn dyfod i eglwys y Dyffryn acw; fe gai aros o leiaf am flwyddyn heb ei alw i fod yn flaenor, gyda ni. Dywedwyd wrthym iddo ar achlysur arall gyfeirio ato fel un o'r rhai mwyaf defnyddiol yn holl gylch y Cyfarfod Misol. Yn ei deimlad ef, ac yn wir yn nheimlad holl aelodau y Cyfarfod Misol, nid oedd flaenor perffeithiach na Humphrey Davies,

Edrychwch arno yn ail, Yn ei berthynas ar Ysgol Sabbothol.

Dywedwyd eisoes iddo gilio braidd yn llwyr o'r cysylltiad hwn yn ei flynyddoedd diweddaf. Yn ystod y blynyddoedd hyny gwnaeth wasanaeth gwerthfawr i'r achosion newyddion yn Aberllefenni; Esgairgeiliog, a Bethania, trwy fyned i'r naill neu y llall o honynt yn gyson gyda'r pregethwr ar y Sabbothau. Ac yr oedd yr athrawon wedi lliosogi i'r fath raddau fel mai hawdd bellach oedd dwyn y gwaith ymlaen hebddo. Ond o 1820 hyd 1850 yr oedd ei weithgarwch gyda'r Ysgol Sabbothol yn dra nodedig. Dywedir fod ganddo ddawn neillduol i holwyddori, yn enwedig y plant; a bu am amser, yn un o'r gofalwyr am Gyfarfod Ysgolion Dosbarth y Ddwy Afon. Cynorthwyai fel holwyddorwr, a gwasanaethai hefyd fel ysgrifenydd y cyfarfod. Buasai ei dad o'i flaen yn dra ffyddlon, i'r Ysgol Sabbothol, a disgynodd deuparth o ysbryd y tad ar y mab, fel nad oedd lonydd i neb yn y gymydogaeth mewn esgeulusdra o'r ysgol, nac un llafur yn cael ei arbed er sicrhau ei heffeithiolrwydd.