Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd.pdf/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae y Cyfarfod Ysgolion yn Nosbarth y Ddwy Afon wedi bod ers cenhedlaethau yn sefydliad pwysig, ac ysgolion Corris ar amgylchoedd wedi bod bob amser yn hynod ffyddlon iddo. Cafwyd gwasanaeth gwyr rhagorol fel gofalwyr am y cyfarfod, yr hyn yn ddiau sydd wedi bod yn un rheswm am ei bwysigrwydd ai ddylanwad; ac y mae ffyddlondeb yr ysgolion uchod iddo hefyd yn y lle cyntaf yn ddyledus i esiampl a dylanwad H. D. Y mae efe wedi marw bellach ers blynyddoedd, ac yr oedd wedi cilio cyn ei farwolaeth i roddi lle i eraill, ond y mae yr eglwysi ar ysgolion yn yr ardaloedd hyn yn myned ymlaen hyd y dydd heddyw yn y cyfeiriad a roddodd efe iddynt yn mlynyddoedd ei weithgarwch.

Edrycher arno eto, Yn ei berthynas a symudiadau cyhoeddus yn y gymydogaeth.

Ni welwyd ef erioed yn wrthwynebydd unrhyw symudiad daionus; ei le yn wastad gyda phob un o honynt fyddai lle y pleidiwr mwyaf gwresog, ar arweinydd mwyaf medrus a gwrol. Cymerer, er engraifft, yr achos dirwestol. Mae yn amheus a oes yn Nghymru un gymydogaeth wedi bod ar y cyfan mor ffyddlon i'r achos hwn a chymydogaeth Corris. Dydd mawr y flwyddyn i ni, yn adeg mebyd, ydoedd dydd yr Wyl Ddirwestol,—dydd Iau y Dyrchafael. Sefydlwyd y Gymdeithas yno yn 1836, dyna y dyddiad ar y Faner Fawr, yr hon a ddygid allan yn wastad ar y dydd uchod, os byddai y tywydd yn caniatau; ac y mae yr wyl wedi ei chynal yno bob blwyddyn o'r adeg uchod hyd heddyw, oddigerth 1860, pryd y rhoddwyd hi heibio yn ngwres y diwygiad, er mwyn cynal yn ei lle gyfarfod Pregethu Undebol. Y dirwestwr cyntaf yn yr ardaloedd ydoedd Morris Jones, y pregethwr, yr ail ydoedd Humphrey Edward (Cwmcelli gynt); ar trydydd, ond y cyntaf i arwyddo yr ardystiad am ei oes, ydoedd Rowland Evans, Y Felin, Aberllefenni; ar pedwerydd ydoedd Richard Jones, y Saer, yn awr o Ddolffanog Fach, Ystradgwyn. Yr oedd brawd arall wedi