Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd.pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arwyddo yn ail, ond bu yn anffyddlon iw ardystiad; ac nid ydym o ganlyniad yn crybwyll ei enw. Yr oedd y diweddar Barchedig John Jones, Brynteg, ond y pryd hwnw o Gwmcoch yn gynar ar y rhestr; a dywedai fod ganddo law gyda Morris Jones mewn cael cyfarfod cyhoeddus o blaid yr achos am y tro cyntaf. Yr oedd eraill, ac yn eu mysg yn arbenig y diweddar Mr. Hugh Roberts, yn foreu gyda'r gwaith, y rhai a barhasant yn ffyddlon hefyd hyd y diwedd. Lled gyndyn fu H. D. i ymuno â'r symudiad hwn ar y cyntaf. Heblaw yr anhawsderau oedd ar ffordd y cyffredin yn eu mysg y syniad fod byw, ac yn enwedig gweithio, yn amhosibl heb ryw gymaint o'r diodydd meddwol—yr oedd ei gysylltiadau masnachol yn peri iddo ef fod i fesur yn betrusgar. Gelwid arno i fyned yn fynych oddicartref, ac yn y tafarnau yn wastad y cyfarfyddai â'r rhai y masnachai â hwynt i ddwyn ymlaen ei drafodaethau, yr hyn a ystyrid yn gwbl anocheladwy; ac edrychid ar ymarferiad â'r diodydd meddwol uwchben y trafodaethau yr un mor anocheladwy; Ond wrth glywed un gŵr yn areithio yn Machynlleth, ac yn disgrifio y gareg fawr yn nghanol y llyn o dan ba un y llechai y pysgod, penderfynodd ar unwaith na chai neb lechu mwyach yn ei gysgod ef, ac arwyddodd yr ardystiad ar unwaith, a deuddeg ar hugain eraill; gydag ef yr un noswaith. O hyny allan bu yn llawn gwres gyda'r achos.

Daeth Corris yn fuan yn enwog am ei zêl ddirwestol; ffurfwyd côr yno dan arweiniad Richard Williams, yr Hen Ffactri, o ba un yr oedd William Evans. yr hwn a fu yn arweinydd y canu yn Rehoboth am flynyddocdd wedi hyny, yn aelod pwysig a dylanwadol; a byddai y côr hwn yn myned yn fynych i Ddolgellau, Machynlleth, Dinas Mawddwy, a lleoedd eraill i ganu. Ar yr adegau hyn mawr fyddai y cynwrf; a chynhelid breichiau aelodau y côr gan frodyr ffyddlawn eraill o'r gymydogaeth. Ond ni byddai neb yn fwy ffyddlawn iddynt na H. D. Hir gofio am dano ar un achlysur yn Machynlleth pan yr oedd