Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd.pdf/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn agored yn wastad i weinidogion a phregethwyr; ac am lawer o flynyddoedd yn ei ystabl ef hefyd y byddai eu ceffylau. Rhai o'r cyfeillion eraill a deimlasant y dylai yr eglwys gymeryd rhan o'r baich, ac a fynasant gymeryd y ceffylau i ystabl y capel, lle y gofalwyd am danynt o hyny allan gan ei gyd—swyddog, William Richard. Yr ydym yn cofio yn dda, er nad oeddym ond ieuanc, ein syndod pan gyhoeddwyd yn Aberllefenni gasgliad nad oeddym wedi clywed sôn am dano erioed yn Nghorris, sef Y Casgliad at Fwyd y Llefarwyr. Llefarwyr oedd yr enw arferol ar bregethwyr yn y ddau le. H. D. fyddai yn cyhoeddi bob amser yn Nghorris, ac felly y cyhoeddai: Hwn a Hwn i fod yma yn llefaru. Ond yr oedd y draul i letya y llefarwyr yn disgyn yn gyfan ar H. D.; ac am lawer o flynyddoedd, pan yr oedd y teithio yn ei ogoniant, nid bechan ydoedd. Pan ddaeth Mr. Morgan o gwmpas i gasglu at Athrofa y Bala, rhoddodd iddo dderbyniad croesawus, gan addaw yn y fan, rhyngddo ef ai fab, Mr. David Davies, haner cant o bunau. Pan yn adeiladu y capel presenol, addawodd gan punt os byddai i'r eglwys wneuthur pedwar cant; ac yr oedd wedi talu ei addewid cyn aros i weled pa beth a wnai yr eglwys.

Rhaid edrych arno cyn terfynu,

Yn ei berthynas a'r Cyfarfod Misol. Daeth yn fuan yn aelod cyson a phwysig o hono. Gelwid ef yn fynych i'r gadair lywyddol, er nad oedd un amser yn chwenych y lle hwnw. Un tro, yn Llanegryn, dywedai wrth Mr. Humphreys, Dyffryn, fod yn rhaid iddo ef aros gartref os na adewid llonydd iddo heb ei wthio i'r gadair. Ydi hi yn galed iawn? meddai Mr. Humphreys, caledi go esmwyth ydi hwna, Wmffra bach. Ond teimlai pawb eraill ei fod yn llanw ei le yn dda; ac ar adegau dangosai ddeheurwydd neillduol gyda'r gwaith. Yn Llanelltyd, pan oedd yr Hybarch Lewis Morris yn ceryddu yn llym aelodau y Cyfarfod Misol am eu hanffyddlondeb iddo, dygodd ef, fel llywydd, bawb i natur dda ar cwbl i drefn trwy ofyn yn ysmala,