Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd.pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hugh Roberts, Siloh. Terfynwn ein sylw arno gydag anerchiad y gŵr anwyl o Fachynlleth, sydd bellach, ers rhai blynyddoedd, wedi ei ddilyn i'r breswylfa lonydd, fel y ceir ef yn yr adroddiad yn y Goleuad, Ionawr 10, 1874 :—Yr oeddwn yn adnabod Mr. Humphrey Davies, yn dda, ac yn cario meddwl uchel am dano bob amser. Gŵr yn caru Duw ydoedd,—gŵr heddychol a thirion. Un wedi llywodraethu yn dda ydoedd; ac am hyny yn haeddu parch dau—ddyblyg. Mae yn ei gael yma heddyw, ac yn siwr o'i gael am dragwyddoldeb. Yr wyf fi yn teimlo yn gysurus yma heddyw. I ba le bynag yr edrychaf, y mae yr olwg yn siriol a hapus. Dyma hen dad wedi cael byw dros bedwar ugain mlynedd; ac y mae yr olwg ar ei oes faith yn siriol a disglaer. Gweithiodd yn ffyddlawn gydag achos Iesu Grist. Ond ymlaen y mae yn ddisglaer iawn. Dylem fod yn falch a diolchgar am rai o'r fath yma; ond nid yn aml iawn y maent iw cael. Yr oeddwn yn meddwl wrth glywed canu y penill,

Eu henwau'n perarogli sydd,

fod yma dipyn o berarogl o gwmpas yr dor; a gallwn fentro llosgi perarogl,—y mae yma frenin wedi marw. Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig. Nid oes dim claddu ar ddyn fel ma. Priddwch chwi faint a fynoch ar Humphrey Davies, Abercorris, ni chleddir mo hono,—ni chleddir moi ddagrau, nai feddwl cryf. Mae wedi goddiweddyd llawenydd a hyfrydwch. Nis gellid bod yn ei gwmni am bum mynyd heb wybod fod achos Iesu Grist yn agos iawn at ei galon; Ie; fel canwyll ei lygad. Gwnai y peth lleiaf. Fel y disgyblion gynt yn cyrchu ebol i'r Arglwydd Iesu, gwnaeth yntau yr un peth lawer gwaith. Bydd yn myned yn ddydd baru arnom ninau, gyfeillion pan byddwn feirw. Bydd llawer iawn o remarks yn cael eu gwneyd arnom tybed y bydd yno dipyn o berarogl? Pa beth fydd ein cyfeillion agos yn ei ddweyd am danom? Ond yn fwy na'r cwbl, pa beth fydd Duw yn ei ddweyd?