Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd.pdf/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwn yn derfyn ar yr ymgasglu i'r Castell ar y Sabbothau o hyny allan; yr hyn a ddengys yn bur eglur mai nid gwraig gyffredin oedd mam y teulu sydd yn ei holl ganghenau hyd heddyw yn llanw safleoedd mor barchus yn gymdeithasol a chrefyddol.

Wedi dyfod i Geiswyn, bu Richard Owen yn gaffaeliad pwysig i'r achos yn Nghorris. Gŵr call, craffus, ydoedd; a bu yn hynod ffyddlawn er fod ganddo yn agos i bum milldir o ffordd o'i gartref i'r capel. Yn ei ddyddiau ef nid oedd capel wedi ei adeiladu yn Aberllefenni. Yr oedd ei amgylchiadau yn gysurus, ai gymeriad yn uchel ymysg yr ardalwyr. Byddai yn cael llawer o fwynhad wrth sylwi ar neillduolion ei gyd—swyddogion. Daeth ei ddisgrifiad o H. Davies a R. Evans yn cadw society yn dra adnabyddus; a theimlai pawb a'u hadwaenent nas gallesid cael ei gywirach. Dyna ddyn yn y gors. Cynllun R. E. ydyw myned yno ato i glywed ei brofiad, i gydymdeimlo ag ef, ac iw gysuro: ond cynllun H D. ydyw sefyll ar y lan a gweiddi arno. Dyna gareg yn dy ymyl, dyro dy droed arni, a thyrd oddi yna. Mae coffadwriaeth Richard Owen yn barchus hyd heddyw yn nghalonau yr ychydig sydd yn ei gofio yn swyddog yn eglwys Corris. Ymadawodd o'r gymydogaeth yn gymharol gynar yn ei oes, ond parhaodd yn ffyddlawn i achos crefydd hyd y diwedd. Bu yn briod ddwy waith. Mae rhai o'i blant o'r wraig gyntaf yn fyw eto yn yr America; ac y mae tri o'i blant o'r ail wraig yn fyw yn Machynlleth. Un o honynt ydyw Mr. Richard Owen, Timber Merchant.

Un arall o gyd-flaenoriaid H. D. ydoedd William Jones Tan-yr-allt, yr hwn, y gwelwyd mewn penod flaenorol, oedd hefyd yn frawd yn nghyfraith iddo. Brodor ydoedd ef o Lanllyfni, yn Swydd Gaernarfon. Daeth i Gorris yn ddyn ieuanc; ac yno yr ymunodd âg eglwys Dduw. Bu am flynyddoedd yn oruchwyliwr ar chwarel Aberllefenni; a pharhaodd mewn