Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymweliad unwaith a Chorris. Yr oedd y diweddar Mr. Thomas Jones, Parliament Terrace, Liverpool, yno yn gwrando arno, a derbyniasom y dystiolaeth ganddo ef ei hun. Yr oedd ar y pryd yn egwyddorwas gyda Mrs. Foulkes, yn Machynlleth. Yr oedd mab i Mr. Morris yno yr un adeg, ac aeth y ddau ynghyd i Gorris i wrando ar y gwr parchedig yn pregethu.

Nid ydym yn sicr fod yr hyn a ddywedir ar tudalen 42 yn gywir :-"Adeiladodd (Humphrey Davies) factory i drin gwlan." Dywedwyd wrthym fod yr hen factory wedi ei hadeiladu cyn ei ddyddiau ef; ond gan bwy ni dderbyniasom hysbysrwydd. Ac nid ydyw erbyn hyn o nemawr bwys.

Derbyniasom rai newyddion ychwanegol gyda golwg ar symudiadau Samuel Williams, Rugog. Yn 1825, y daeth gyntaf i Gorris. Bu am chwe' mis wedi hyny yn yr Ysgol yn Kerry, Swydd Drefaldwyn. Dan bregeth o eiddo Edward Rees, oddiwrth Luc xiv. 24, y cafodd dröedigaeth, yr hwn a bregethai y tro hwnw yn Ystabl y Fronfelen. Preswyliai S. W., ar y pryd yn Caecenaw; ac ymddengys mai i'r Felin yr aeth gyntaf i'r society. Yn eglwys Corris y dewiswyd ef yn flaenor, yr un adeg a William Jones, Tan’rallt ; ond yn Aberllefenni, ni a gredwn, y llafuriodd yn benaf o'r cychwyn. Wrth gyfeirio at Mr. Evan D. Humphreys, ar tudalen 166, dylasem ychwanegu ei fod yn aelod o Ddeddfwrfa Talaeth Vermont,—sefyllfa wir anrhydeddus. Edrychir i fyny ato fel gwr o ddylanwad yn y dalaeth.

Wrth gyflwyno ffrwyth ein llafur i'r cyhoedd, nid oes genym ond gobeithio y bydd, er pob anmherffeithrwydd, yn meddu rhyw gymaint o werth i bawb a deimlant unrhyw ddyddordeb yn yr ardaloedd hyn, yn gystal ag i lawer eraill a gymerant ddyddordeb yn hanes Methodistiaeth. Pe buasai y gorchwyl wedi ei gyflawni ddeugain mlynedd yn ol, buasid wedi diogelu llawer o bethau dyddorol sydd wedi myned erbyn hyn ar goll; ond y mae yn aros eto yn ddiau mewn gwahanol