Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/148

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwaed fel tuag at beth cyffredin. Gwerth gwaed Iesu Grist yw, y plant; a difrifol fydd esgeuluso rhoddi iddynt hyfforddiant priodol. At hyn oll ychwaneger yr ystyriaeth nad yw y plentyn nai athraw yn gwybod eu hamser. Fel y pysgod a ddelir yn y rhwyd, ac fel yr adar a ddelir yn y delm, felly hwythau, heddyw yn yr ysgol, ar Sabbath nesaf yn y farn.

Cof genyf fy mod unwaith mewn ysgol gyda dosbarth o blant,: bach. Pan yn adrodd eu hadnodau, adroddodd un eneth fechan yr adnod, Gwir yw y gair, ac yn haeddu pob derbyniad, &c Gofynaia iddi beth ydyw pechaduriaid. Yr ateb oedd, Dwn i ddim Disgwyliwn gael digon o Sabbothau i'w hegwyddori yn fanylach;:, ond dyna y Sabbath olaf am byth iddi fod yn yr ysgol. Bum yn teimio lawer gwaith wedi hyny y dylai pob athraw roddi i'r plant dan ei ofal ddigon o addysg bob Sabbath i'w cyfarwyddo pa fodd fod yn gadwedig.

Mae yr araeth hon yn anorphenol. Nid yw yr uchod ond y sylwadau ar y plentyn Y rhaniadau eraill ydynt : Yr anogaeth neu cyngor, hyfforddia ef. Y Rheol, ymhen ei ffordd. Y ffrwyth neu y fendith, a phan heneiddio nid ymedy â hi.

III

Dyma ddernyn arall heb ei orphen. Byddai yn resyn iddo fyned ar goll.

MYFYRDOD AR YR YSGOL SABBOTHOL.

Mae gan yr Arglwydd Iesu fel Cyfryngwr winllan yn y byd bob amser; a phan y mae yn galw iddi, galw gweithwyr y mae. Os oes segurwyr ynddi, nid efe a'u galwodd. Efe a aeth allan a hi yn dyddhau i gyflogi gweithwyr i'w winllan. Dyna ddywed, "Fy. mab, dos, gweithia heddyw yn fy ngwinllan. Ac nid yfory, ond; heddyw." Un adeg sydd genym, a rhaid gwneyd y cwbl yn yr un adeg hono, Heddyw.

Ond dichon fod ambell un yn barod i ddweyd nad yw ef yn cael dim gwaith i'w wneyd, onide y byddai yn dda ganddo ei wneyd. Wel, fy nghyfaill, byddai yn dda i ti ystyried pa un a'i y winllan sydd heb ddim gwaith, a'i ynte ti sydd heb lygaid i'w weled. Fe welodd y wraig yn nhy Simon waith nad oedd neb arall yn y ty yn ei ganfod, sef golchi traed yr Iesu. A golchodd hwyy â'i dagrau, a sychodd hwy â gwallt ei phen. Pe buasai yno goron i'w gosod ar ei ben, yr oedd yno ddigon o rai eraill fuasai yn gweled gorchwyl