Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/158

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yru ymaith i dderbyn ei gyflog. Ac y mae deddf a chyfiawnder yn ei yru i'r carchar fel troseddwr

A dyma sydd yn ofnadwy. Y mae yn myned yn ei ddrygioni. Os na ysgerir rhwng dyn a'i ddrygioni yn y byd hwn, ni bydd dim ysgar arnynt byth. Pan y dywed enaid y drygionus, Dyma fi yn myned at Dduw i farn, dywed ei ddrygioni, Mi ddof finau yno gyda thi—Pan y dywed y corff, Dyma fi yn myned i orwedd yn y bedd, fe ddywed ei ddrygioni, Mi ddof finau i orwedd ar dy esgyrn yn y pridd. Ac yn y boreu mawr, pan y dywed y corph Dyma fi yn myned i godi, i gael fy uno unwaith eto a'r enaid melldigedig hwnw, fe ddywed ei ddrygioni, Mi ddof finau gyda thi. Lle y lletyech di y lletyaf finau byth mwy. Y Duw sydd yn llawn o ras a dorro yr undeb rhwng y drygionus a'i ddrygioni yn y byd hwn.

Gyrir ymaith y drygiouus yn ei ddiygioni, fel y troseddwr yn ei rwymau. Gwaith y drygiouus yw giwneyd rhwyniau iddo ei hun, gwau y rhwyd a gwneyd y rhaffau i'w ddal ei hun, casglu tanwydd i'w losgi ei hun am byth. Ei amynedd ei hun a ddeil yr annuwiol, ac efe a ddelir â'i rhaffau ei bechod ei hun.

Nid yw yr hyn a ganlyn ond engraifft o anerchiadau a draddodid ganddo yn achlysurol yn y Cyfarfodydd Eglwysig pan y byddai mater neillduol dan sylw.

Y WEDDI DEULUAIDD.

Mae gan y chwiorydd fwy i'w wneyd, fe allai, nag a feddyliwn er hwyluso y ffordd gyda'r addoliad teuluaidd. Wedi boreufwyd, bydded iddynt oddef i fân orchwylion, megis golchi y llestri, crynhoi y te, &c, gael eu gadael nes y byddo yr addoliad drosodd, fel na choller amser y pen teulu ac aelodau eraill y teulu y byddo eu gorchwylion yn galw am danynt. Bydded y plant wedi eu gwisgo yn brydlon, a gofaler am berffaith dangnefedd. Dyrchafu dwylaw sanctaidd sydd i fod, heb na digter na dadl. Mae un gair chwerw a chyffrous yn ddigon i darfu ysbryd addoli o'r teulu am ddyddiau. Hefyd y mae yn ofynol i'r hwn fyddo yn cynal yr addoliad fod wedi derbyn yr eneiniad oddiwrth y sanctaidd hwnw, er ei gadw rhag.—myned yn ffurfiol a diflas. Yr oedd Moses yn myned o'r neilldu oddiwrth y bobl at yr Arglwydd; ac erbyn dychwelyd at y bobl yr oedd ei wyneb yn disgleiriio. Ac felly y mae yr Iesu yn ein dysgu. "Dos i'th ystafell, ac wedi cau dy ddrws gweddia ar dy Dad yr hwn