Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD I

—————♦—————

TREM AR AGWEDD CORRIS A’R AMGYLCHOEDD

TUA DIWEDD Y GANRIF O’R BLAEN.

YN 1801 nid oedd poblogaeth plwyf Talyllyn ond 633; ac yn 1811 yr oedd wedi gostwng i 596. Mewn ‘Adgofion’ a ysgrifenwyd ganddo, dywed Rowland Evans, o’r Felin, Aberllefenni, nad oedd yn nhref-ddegwm Corris, a thref-ddegwm Ceiswyn, yn 1810, ond 69 o dai, sef 39 o amaethdai, a 30 o fwthynod cyffredin, y rhai a breswylid gan weithwyr tlodion. Yr adeg hono, gan hyny, nis gallai poblogaeth Corris ac Aberllefenni fod uwchlaw 350.

Caled a thlodaidd oedd bywyd yr amaethwyr, a hynod syml oedd eu hymborth a’u gwisgoedd. Nid oedd y tir yn fras o gwbl; a thra chyntefig oedd nodwedd eu hamaethyddiaeth. Syml iawn oedd yr offer amaethyddol. I’r Hengae y daeth y bedrolfen (waggon) gyntaf erioed yn y plwyf, a mawr fu yr helynt i wneyd unrhyw ddefnydd o honi. Am lwyth o galch i Gulyn Pimwern yr anfonwyd hi y siwrnai gyntaf, a chyda hi dri o ddynion cryfion i gymeryd ei gofal. Wedi cyraedd pen y daith, nid oedd ganddynt un ffordd i’w throi yn ôl ond trwy roddi eu hysgwyddau o dan y naill ben, a’i gario o gwmpas, nes bod y pen arall a’i gyfeiriad tua chartref. Wedi ei llwytho, deuwyd yn weddol lwyddianus nes cyraedd y drofa gerllaw Abercorris, pryd yr aeth un o’r olwynion yn erbyn ei hochr, ac y methwyd myned ymlaen gam yn mhellach. Penderfynwyd ei gollwng gan hyny ychydig yn ôl, ond y canlyniad fu i