Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/180

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddwylaw ychwaith gyda hyn. Er nad oedd iddo blant ei hun, nid oedd neb a deimlai ddyddordeb mwy bywiog mewn plant nag efe. Cofiwn yn dda am lawer ol ymddiddanion yn dangos dyfnder ei deimlad dios ddygiad i fyny priodol iddynt; ac yr ydym yn ddyledus i rai o honynt am argraffiadau dwysion ar ein meddwl pan nad oeddym ond ieuanc iawn. Bu yn un o'r colofnau gyda'r ysgol ddyddiol yn y Garnedd Wen am flynyddoedd; ac nid bychan ydyw dyled y gymydogaeth heddyw iddo am y gwasanaeth a wnaeth y pryd hwnw.

Yn 1859, bu farw ei briod, a phriododd yntau wedi hyny Mrs. Catherine Williams, o Lanllyfni, chwaer i'r diweddar Mr. Robert Hughes, Fronwen, goruchwyliwr chwarelau Aberllefenni, yr hon sydd eto yn fyw. Dioddefodd am flynyddoedd gystudd maith a phoenus yn hynod ddirwgnach. Mawr oedd ei serch at dŷ yr Arglwydd, a dwfn oedd ei deimlad o'r golled am fyned i'r cynteddoedd. Gwnaeth ymdrechion mawrion i fyned yno yn nghanol gwaeledd mawr; ac wedi llwyr fethu yr oedd ei galon yn aros yn nhy Dduw. Ond er y cwbl, treuliodd flynyddoedd o gystudd yn bur gysurus. Tynai ddedwyddwch pur o gymdeithas cyfeillion; ac yr oedd adroddiad pregethau iddo yn wledd wirioneddol. Cofiai yn dda ei hunan am lawer o hen Gymanfaoedd y Bala; ac yr oedd ei edmygedd o'r hen bregethwyr yn ddiderfyn. Iddo ef o flaen pawb eraill o'r bron yr ydym ni yn ddyledus am y syniad sydd genym am lawer o honynt. Bu farw Tachwedd 12, 1879 Cristion da yn ddiddadl oedd John Stephen; a pharchus ac anwyl ydyw ei goffadwriaeth.

Un arall a fu yn aelod amlwg am flynyddoedd yn Aberllefenni ydoedd Dafydd Owen. Byr o gorffolaeth ydoedd ef, ond cryf a gwrol yr olwg arno er hyny. Yr oedd ganddo ben lled fawr, a gwyneb yn amrywio llawer ar wahanol adegau, yn ol y teimladau oddifewn. Dyma ddisgrifiad y Parchedig Evan Davies, Trefriw, o hono:—