Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/187

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhywbeth yn ysbryd y bobl yw y rheswm, y mae y ffaith yn amlwg fod y cydweithrediad mwyaf dedwydd wedi bodoli yn yr eglwysi gyda phob symudiad a gymerwyd mewn llaw ganddynt. Iachus iawn oedd dylanwad Humphrey Davies. Tangnefeddwr trwyadl ydoedd ef; ac ni bu erioed yn llywodraethu gwialen haiarn. Yr oedd yn ddiau yn dywysog, ond yn dywysog cwbl gyfansoddiadol: nid oedd ynddo y duedd leiaf at fod yn ormesol. A theimlad gwerinol a gynyrchwyd trwy ei ddylanwad yn yr eglwysi. Gwnaeth bob gormes yn anmhosibl ynddynt byth. Ond yr oedd ar yr un pryd mor llawn o ysbryd gwaith fel y llanwodd yr eglwysi â'r cyffelyb ysbryd. Gwnaeth bawb yn gyffelyb iddo ei hun yn yr awydd am weithio yn hytrach na llywodraethu. A gwirionedd syml ydyw fod eglwys Corris a'r eglwysi ydynt wedi tori allan o honi, wedi bod yn nodedig o heddychol a gweithgar. Ein gweddi ydyw ar iddynt gael eu cadw felly ddyddiaur ddaear.

Nid anmhriodol fyddai ychwanegu fod y teimladau goreu wedi bod yn ffynu rhwng Methodistiaid yr ardaloedd hyn âg enwadau eraill. Daw y mater hwn dan sylw yn naturiol mewn cysylltiad a chrybwylliad a wneir am yr Achos Dirwestol.

Credwn fod crefydd Methodistiaid Corris yn type lled uchel o Cristionogaeth. Mae wedi eu gwneuthur yn ddynion cryfion a chyson. Y mae iddynt eu hegwyddorion: ac ni chafwyd achos erioed i gwyno oherwydd eu hanffyddlondeb iddynt. Gydag addysg a chyda gwleidyddiaeth y maent wedi bod yn Ymneillduwyr trwyadl. Dichon na osodwyd hwy erioed mewn amgylchiadau i'w profi fel y gwnaed mewn cymydogaethau eraill ond ein cred ydyw fod yn y cymeriad Methodistaidd yn yr ardaloedd hyn gryn lawer o'r defnydd o ba un mewn amgylchiadau neillduol y gwneir merthyron. Ac nid yw yn angenrheidiol ychwanegu nad ydym yn hyn yn eu cymharu â, nac yn eu gwahaniaethu oddiwrth yr enwadau crefyddol eraill.