Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/190

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Edinburgh aeth allan yn genhadwr i India yn Medi 1871. Ymbriododd yn Mai 1871 â Miss Sydney Margaret Jones merch henaf y diweddar Glan Alun. Buont am rai blynyddoedd yn llafurio yn Shellapoonjee a Lait-kynsew; ac wedi hyny symudasant i Nongsawlia, Cherrapoonjee, lle y bu Mr. Roberts yn athraw y Coleg Normalaidd, a Mrs. Roberts yn ei gynorthwyo yn effeithiol gydag addysg y merched. Y mae iddynt saith o blant yn fyw; ac ar hyn o bryd y maent fel teulu yn cyfaneddu yn y Bala. Bwriadant ddychwelyd i faes eu llafur tua diwedd y flwyddyn hon.

Ni chyfododd pregethwr arall yn Nghorris hyd heddyw. Bw farw yn ieuainc amryw o fechgyn y disgwylid pethau mawr oddiwrthynt; ac y mae pedwar o'r cyfryw yn haeddu crybwyll iad yn y lle hwn, sef Robert Roberts, mab ieuengaf Robert a Jane Roberts, Garleglwyd; Rowland Jones, mab John a Jane Jones, Shop Newydd; Richard Roberts, mab John a Mary Roberts, Dolybont; a Meredith, mab John ac Anne Jones, Galltyrhiw. Yr ydym wedi arfer edrych ar farwolaeth y gwyr ieuainc gobeithiol hyn ymysg y colledion mwyaf y gwyddom ni i'r gymydogaeth eu dioddef mewn blynyddoedd diweddar.

Bu un gŵr a fagwyd yn eglwys Corris yn weinidog cymeradwy yn yr America am lawer o flynyddoedd, sef y Parchedig Edward J. Hughes, West Bangor, Pennsylvannia, yr hwn y cyfeiriwyd ato o'r blaen. Bu farw Gorphenaf 30, 1885

Yn Aberllefenni cyfodwyd tri o'r frodyr i'r weinidogaeth. Am resymau amlwg ni wneir un cyfeiriad yn y lle hwn at y cyntaf o'r tri.[1] Yr ail ydoedd y Parchedig John Owen, sydd yn awr yn weinidog yr eglwys y magwyd ef ynddi. Ar trydydd ydyw y Parchedig John Owen Jones, Llanengan, Swydd Gaenarfon. Yn Aberllefenni y dechreuodd yntau bregethu, er mai brodor ydoedd o Lanllechid, yn Arfon.

Mae un brawd o'r ardal hon yn bregethwr cymaradwy yn

  1. Y Parch Griffith Ellis, Bootle, sef awdur y llyfr hwn