Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/195

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

swyddogion na'r aelodau ydynt mewn cysylltiad a'r gwahanol eglwysi yn bresenol; nac ychwaith draethu ein syniadau am rhagolygon methodistiaeth yr ardaloedd yn y dyfodol Yr ydym o'n calon yn dymuno am i'r llwyddiant rhagllaw fod yn gyffelyb ac os oes modd yn fwy na'r llwyddiant yn yr amser aeth heibio.

Gallesid ychwanegu penod ddyddorol ar Ddiwygiadau Crefyddol yr Ardaloedd yn enwedig diwygiadau 1819, 1839, a 1859 Nid ydym yn cofio ein hunain ond y diweddaf; ac yr ydym wedi ymatal rhag gwneuthur unrhyw grybwyllion am dano oddieithr yn gwbl achlysurol. Plant diwygiadau ydyw Methodistiaid Corris ar Amgylchoedd; ac nid anyddorol fuasai olrhain effeithiau y diwygiadau ar eu cymeriad; ond arweinid ni gyda'r gorchwyl hwn yn rhy agos i'r tir beirniadol yr ydym wedi ymdrechu cadw allan o hono. Gresyn ar yr un pryd fyddai i hanes y diwygiadau gael eu colli; ac yr ydym, wrth derfynu, yn awgrymu mai dymunol fyddaf ei gasglu a'i ddiogelu, heb golli ychwaneg o amser, gan rywun neu rywrai sydd yn preswylio yn y gymydogaeth.