Mae y dyfyniad canlynol o 'Methodistiaeth Cymru' yn ddyddorol :—
"Yn mhen blwyddyn ar ol hyn y cafodd D. Humphrey gyfleusdra gyntaf i wrando pregeth drachefn. 'Yr oedd gair yr Arglwydd yn werthfawr yn y dyddiau hyny. Cynhelid yr oedfa hon ar Fawnog Ystradgwyn, a phrofwyd chwerwder erledigaeth yn hon hefyd. Ar ol hyn cafwyd un o hen bregethwyr cyntaf y Bala i ddyfod ar ryw Sabbath i ardal Corris (i bregethu) ar fin y ffordd fawr. Yr oedd rhyw rai, ar ol clywed fod pregeth i fod yn yr ardal y Sabbath hwnw, 'wedi danfon offer aflonyddwch, sef llestri tin a phres i'w curo, fel ag i lesteirio i'r bobl glywed beth a ddywedid gan y pregethwr. Ond yr oedd blys cael clywed ar ryw un yno, yr hwn a gipiodd y llestr pres o law y terfysgwr, ac a'i lluchiodd i'r afon. Aed i'w geisio eilwaith, ond bellach ni ellid, gan yr agen a wnaed ynddo, wneyd nemawr ddefnydd o hono."
Yn ffodus digwyddodd i ni, yn ddiweddar, trwy garedigrwydd Mrs. Evan Roberts, Caernarfon, gael gafael ar rai manylion gyda golwg ar y bregeth uchod,—y gyntaf erioed yn ardal Corris gan y Methodistiaid. Yr oedd nain Mrs. Roberts, Sarah Rhys, Ty'nyberth, yn bresenol yn yr odfa,—y pryd hwnw yn wraig ieuanc gyda dau o blant. Yr oedd yr ieuangaf o'r ddau,—Thomas Edward, wedi hyny o Benystaer, ar ei braich, a'r hynaf, Dafydd Tomos, Ty'nyberth, yn grwtyn bychan yn ei llaw. Soniodd Sarah Rhys lawer am yr odfa; a chofiodd ei mab Dafydd Tomos hefyd am dani tra y bu byw. Y pregethwr oedd Dafydd Cadwaladr, a'r lle y pregethai oedd gerllaw Ty'n yr-wdyn, neu Ty'r wdyn, tŷ bychan a safai y pryd hwnw ychydig yn uwch i fyny yn y Cwm na'r Hen Ffactri, ac yn agos i'r Ceunant, oddiwrth ba un y Cymerai Ty'n y ceunant ei enw. Ymddengys fod tomen chwarel Abercwmeiddew yn gorchuddio y llanerch yn awr, a bod yr Engine House wedi ei adeiladu yn lled agos uwch ei phen. Yr oedd hyn debygid tua 1781 neu 1782. Ganwyd Dafydd Tomos rywbryd yn 1778, a digon tebyg ei fod yn dair i bedair blwydd oed pan yn myned i'r odfa yn llaw ei fam. Y tebyg, gan hyny, ydyw i'r bregeth gyntaf gan y