Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nghyd ag eraill, o'r farn mai hyny oedd eu dyledswydd ; ond gwrthwynebwyd hyn yn gryf gan eraill, ac yn benaf gan y brodyr o Sir Gaernarfon, gan na fynnent er dim gael eu cyfrif yn Ymneillduwyr. Y canlyniad a fu i ddirwy o £20 gael ei osod ar William Pugh; £20 ar dy yn Nhywyn; £20 ar dŷ yn Mryncrug; ac £20 ar dy yn Llannerch goediog. Parodd hyn, fel y gellid meddwl, fraw a syn. edigaeth trwy y wlad. Deallwyd fod boneddwyr eraill yn bwriadu, gwneyd yr un peth a C—t. Bu capel Dolgellau yn nghauad un Sabbath, mae'n debyg oblegid yr arswyd a ddaliasai y pregethwyr i fyned allan heb eu trwyddedu. Dygodd yr amgylchiadau hyn y mater mewn dadl i lwyr benderfyniad, a hyny yn bur fuan. Nid oedd eisieu rheswm mwyach o blaid Ymneillduaeth; yr oedd llais yr erledigaeth yn uwch na llais rheswm, ac o hyny allan ni fu un petrusder mewn un fynwes i gymeryd trwydded, ar gyfrif fod yn rhaid ei chymeryd ar dir Ymneillduaeth. Ac yn y cyfwng hwn yr anfonwyd, fel y dywedasom eisoes, am David Francis Jones, Ysw., i'r Bala; a thrwyddo y caed nodded y gyfraith rhag y gorthrwm blin hwn." —Methodistiaeth Cymru, 1. 599. Yr unig adgof dymunol mewn cysylltiad a'r erledigaeth hon o eiddo y boneddwr o Ynys Maengwyn ydyw fod lle i dybio iddo cyn ei farwolaeth weled ei gamgymeriad, a theimlo rhyw radd o ddygasedd at y rhai a garient chwedlau iddo am y Methodistiaid, ac a'i cymhellent i'w herlid. Ond beth am y chwedleuwyr?

Er cael llonyddwch oddiwrth yr erledigaeth, bu ei heffeithiau yn aros am dymor.

“Wedi yr erledigaeth uchod (yr ydym yn dyfynu o'r ysgrif yn y 'Drysorfa' 1840), aeth yr olwg arnom yn isel iawn gan ein digalondid a'n hofn; ond ni lwyr ddiffoddodd y tân sanctaidd yn eneidiau y ffyddloniaid. Pan geid ambell bregethwr i'n plithi, dygai yr hen wragedd damaid iddynt mewn napcyn, ac a'i gosodent mewn twll yn y mur tra parhai yr oedfa; byddai hwnw yn lled flasus. Trwy y weinidogaeth yr amseroedd hyny deffrowyd amryw am eu cyflwr, nes cynyddu o'r eglwys i o 15 i 20 o rifedi."

A phruddaidd yw sylwadau y Parchedig Robert Griffith, ar ol y dyfyniad a wnaed uchod:—