Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

heibio cyn i hyny gymeryd lle. Ychydig cyn adeiladu y capel, bu y cyfeillion crefyddol mewn sefyllfa o ddigalondid mawr. Yr oedd yr amseroedd yn gyfyng, a thlodi y preswylwyr yn ddygn; ac am ryw ysbaid gollyngwyd i lawr y cyfarfodydd eglwysig; ond cymerwyd ail feddwl, a gweithiwyd yn egniol nes cael y capel i fyny. Rhoddodd D. H. dir i'w adeiladu arno, a gweithiodd ef, a'i weision, a'i anifeiliaid, yn galed er dwyn y gwaith i ben. Yn 1819, cafwyd diwygiad grymus trwy yr hwn yr ychwanegwyd o 65 i 70 o aelodau; a chyfododd y cyfanrif i 80, ond syrthiodd drachefn i 60 trwy farwolaethau, symudiadau, a gwrthgiliadau. Yr adeg uchod y dechreuodd yr achos yn Nghorris enill goruchafiaeth; ac o hyny allan bu ganddo ddigon o nerth i dori dros bob anhaws- derau yn ei ffordd.

Nid hawdd erbyn hyn ydyw cyflwyno darlun bywiog a chywir o'r hen bererinion fuont yn gychwynwyr Methodistiaeth yn Nghorris. Cyfyng oedd gwybodaeth yr hynaf a'r blaenaf o honynt, Dafydd Humphrey, neu fel y gelwid ef gan bawb yn ei flynyddoedd olaf, "fy ewyrtlı Dafydd Wmphra;" a bychain oeddynt ei ddoniau. Ei ragoriaethau amlwg gyda chrefydd oeddynt ffyddlondeb a gwres. Ac yr oedd bob amser yn hynod gysurus. Rhoddodd ei "achos drwy" yn y dechreu i'r Arglwydd Iesu, ac ni fynai ei faeddu mwyach gan ddyn na diafol. Bu y "cyfamod" yn ffaith ddiamheuol byth yn ei brofiad. Yr oedd y cyfarfod eglwysig un tro yn bur ddihwyl; a dechreuodd Shon Rhisiard,—y mwyaf ei allu a'i ddoniau o'r tri—adrodd ei deimlad mewn tôn hynod bruddglwyfus. "Mae arna' i ofn y dyddiau yma," meddai, "nad ydw'i ddim wedi dechreu yn iawn gyda chrefydd erioed; ond y mae yn gysur gen' i feddwl y cảf ei hail ddechreu o'r newydd heno eto." Athrawiaeth nad oedd yr hen batriarch yn ei deall oedd hon; ac nid oedd ganddo amynedd gyda hi o gwbl. "Twt, twt, twt," meddai, "y peth gwiriona' glywas i erioed; ail ddechra, ail ddechra, o hyd