estynwyd gan Dduw i Fethodistiaeth Corris o hyny hyd yn awr. Bychain iawn oedd galluoedd a doniau y ddau swyddog oeddynt yno o'i flaen, sef ei dad, Dafydd Humphrey, a Richard Anthony, ac i'w law ef o ganlyniad y disgynodd ar unwaith y gorchwyl o borthi y praidd. Ac nid ydym yn credu y bu o'r dechreuad hyd yn awr adeg mor bwysig ar yr eglwys Fethodistaidd yn Nghorris a'r adeg hono, pan yr oedd ynddi uwchlaw triugain o ddychweledigion newyddion, oll yn edrych i fyny at H. D. am ymgeledd ac arweiniad. Ond yr oedd ei gymhwysderau mor amlwg i'r gwaith, a'i ymroddiad iddo mor fawr, fel y dyrchafwyd yr eglwys yn fuan i dir cwbl wahanol i ddim a gyrhaeddasid ganddi erioed o'r blaen. Ac nid ydym yn credu i neb lanw mewn unrhyw eglwys le pwysicach nag a lanwyd ganddo ef yn eglwys Corris o 1820 i 1850.
Bu ei sefyllfa fydol yn llawer o fantais i'w ddylanwad. Yr oedd yn ŵr llygadog, llawn o yni a medrusrwydd; a gellir edrych yn briodol arno ef fel tad masnach yn yr ardaloedd hyn. Adeiladodd factory i drin gwlan, a chymerodd Felin Aberllefenni hefyd; ac nid oedd neb braidd o'r preswylwyr heb fod yn masnachu âg ef, ac yn gyffredin yn ei ddyled. Ond y mae yn rhaid i ni yn y fan hon frysio i wneyd y crybwylliad mai tystiolaeth unfrydol yr ardalwyr ydoedd na chafwyd ef erioed yn ceisio cymeryd unrhyw fantais ar neb yn yr eglwys oherwydd ei gysylltiadau bydol â hwynt. Yr oedd ei uniondeb perffaith yn ei fasnach yn adnabyddus i bawb, a'r ymddiried ynddo braidd yn ddiderfyn. Ac ar adegau o brinder yn enwedig dangosai lawer o dynerwch a goddefgarwch tuag at ei gymydogion. Wrth ystyried gan hyny y manteision hyn, y galluoedd cryfion yr oedd yn feddianol arnynt, ynghyd â'r swydd a lanwai yn yr eglwys, hawdd ydyw gweled y gallasai fod yn frenin yn yr eglwys a'r gymydogaeth. Ac felly mewn rhyw ystyr yr ydoedd; ond ni welwyd ynddo ar yr un pryd un duedd erioed i dra—awdurdodi. Dylanwad yn hytrach nag awdurdod oedd ganddo.