Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

thra yr oedd y gynulleidfa yn ymwasgar, gofynai y naill i'r llall, Beth yn y byd geith O. J. yn y bregeth yna i gymeryd gafael ynddo a mawr oedd pryder y ddau gyfaill am ei weled yn cyfodi. O'r diwedd, wele O. J. i fyny, ac fel arferol yn rhoddi ei ysgwydd aswy ar ochr y pulpud, ar gair cyntaf a ddywedodd, gyda'i lais lleddf, ydoedd, Yr oeddwn i yn meddwl am destyn y gŵr ieuainc yma heno. Anhawdd oedd i'r ddau gyfaill erbyn hyn ymgadw rhag gwenu; ond cafwyd anerchiad a fuasai yn gyfoethogiad gwerthfawr i'r bregeth erbyn ei thraddodiad ai adeg ddilynol, os bu y pregethwr yn ddigon doeth i gymeryd mantais ar y cyfleusdra. Mae O. J. bellach wedi myned drosodd at y mwyafrif ers llawer o flynyddoedd.

Yr oedd y rhai hyn oll fel y gwelir yn flaenoriaid; ond yr oedd yn Nghorris amryw gymeriadau eraill y tu allan i'r swyddogaeth y dymunem wneuthur crybwylliad parchus am danynt. Un o'r rhai hyn yw Hugh Humphrey, y Pentre, tad Humphrey Hughes, Pandy, Dafydd Humphrey, Aberllefenni, a John Humphrey, West Bangor, y rhai ydym oll bellach, oddieithr y diweddaf, fel yntau wedi huno. Gallwn gofio H. H. yn dechreu yr Ysgol unwaith. Yr hyn a argraffodd yr amgylchiad ar ein côf ydoedd i ni dybio mai ei frawd Dafydd Humphreys, y Pandy, ydoedd. Hen ŵr ffyddlon ydoedd ef; a hen chwaer grefyddol iawn oedd ei wraig,—Pali'r Pentre, yn ol yr enw cyffredin arni; yr hon a fu byw am lawer o flynyddoedd ar ei ol. H. H. oedd yr aelod hynaf o'r eglwys yn Rehoboth am rai blynyddoedd tua'r adeg gyntaf y gallwn ni ei chofio, a byddai bob amser yn eistedd yn nghongl y sêdd fawr ar y llaw ddeiau i'r pulpud. Yr ydym eisoes wedi cyfeirio at y gwasanaeth a wnaeth ei ffon yn llaw H. Davies er sicrhau gweddusrwydd yn yr addoliad. Ar ddydd ei gladdedigaeth ef y taflwyd yr holl ardal i gyffro dirfawr trwy i rywun ganfod corff hen wraig a adnabyddid fel Megan, Maesmachreth, yn y llyn yn Hen Gloddfa y Fronfelen.

Un arall a fyddai yn gyson yn y sêdd fawr am rai blynyddoedd