Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eiriol drostynt, pan y bygythid cerydd arnynt am eu camymddygiadau. Yr ydym yn cofio yn dda y modd y siriolwyd ein meddwl ein hunain un tro, pan y cododd A. E. ar ôl araith geryddol a bygythiol iawn gan un o'r blaenoriaid, ac y dywed—odd :—Wel, mi â i yn feichiau drostyn nhw unwaith eto, na byddan nhw ddim yn blant drwg ar ol hyn; ond cofiwch chithau, fy mhlant i, nad â i ddim yn feichiau drosoch chi ar o'l y tro yma. Trwy ei eiriolaeth ef cafwyd arbediad am y tro.

Carasem enwi amryw eraill, megis William Evans yr hwn y crybwyllwyd am dano eisoes fel arweinydd y canu; Humphrey Hughes, y Pandy; John Hughes, Rhognant; ac eraill, ynghyd ag amryw o hen chwiorydd tra theilwng; ond rhaid ymgadw rhag gormod meithder. Oddiwrth yr ychydig grybwyllion a roddwyd mae yn hawdd gweled fod yn y gymydogaeth yn gyd oeswyr ag Humphrey Davies lawer o gymeriadau gwir ddyddorol; a da iawn fyddai casglu ynghyd cyn eu colli am byth yr adgofion am danynt sydd eto yn aros yn wasgaredig ar hyd y gymydogaeth.

Rhan o'u hoes yn unig a dreuliwyd gan y pregethwyr, y crybwyllwyd eu henwan yn flaenorol, yn Nghorris. Nid ydym ein hunain yn cofio y diweddar Barchedig John Jones, Brynteg, ar diweddar Mr. Thomas Williams, Dyffryn, yno. Yn Nghorris y dechreuodd y cyntaf bregethu, a thorodd allan yn bregethwr hwyliog a dylanwadol iawn yn nghychwyniad ei yrfa. Bu ei lafur yn Nghorris ac Aberllefenni o werth mawr, yn enwedig gyda'r Achos Dirwestol; ac un o'r pethau mwyaf tarawiadol y gallwn ni ei gofio yn ein hoes ydoedd ei araith mewn Gwyl Ddirwestol, ymhen blynyddoedd wedi iddo adael y gymydogaeth. Nid ydym yn cofio gweled mwy o wylo mewn cynulleidfa erioed. Ychydig iawn sydd yn aros o'i hen gyfeillion; ond y mae ei enw yn anwyl hyd heddyw yn meddyliau llawer nad ydynt eu hunaian yn ei gofio. Hunodd yn yr Iesu, Rhagfyr 31, 1884; ac y mae ei goffadwriaeth yn beraroglaidd yn Bethesda a holl ardaloedd Arfon.