Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gallasem wneuthur crybwyllion helaeth am eraill; yn eu mysg y diweddar Humphrey Jones, Cwmrhwyddfor, a'i briod, yr hon oedd yn wraig nodedig am ei synwyr da a'i chrefyddolder diamheuol. Hwynthwy oeddynt dad a mam Mr. Morris Jones, Minffordd, a Mr. Henry Jones, Cildydd. Ond rhaid ymatal.

Yn Pantymaes, Aberllefenni, y sefydlwyd yr ail eglwys y gellir edrych ar yr eglwys yn Rehoboth fel ei mam. Daeth Rowland Evans i fyw i Felin Aberllefenni tua'r flwyddyn 1822; ond ni sefydlwyd eglwys yno am lawer o flynyddoedd wedi hyny. Bechan iawn oedd poblogaeth yr ardal hyd agoriad y chwarelau; ac ni chymerodd yr amgylchiad hwnw le am rai blynyddoedd wedi symudiad R. E. i'r Felin. Buasid yn codi ychydig geryg llwydion yn achlysurol yn y Foel Grochan ers llawer o amser. Tewion a geirwon oedd y rhai hyny, a defnyddid hwynt i lorio lawn cyn amled ag i doi y tai. Yn 1867 dywedai R. E. fod un yn fyw y pryd hwnw a fuasai yn cyrchu oddiyno at gapel y Brithdir, er llorio y fynedfa iddo, yr hyn y gallai ei gymeryd ar gefn ceffyl. Cymerodd gydag ef bedair carreg, a mawr y ganmoliaeth a roddid iddynt wedi cyraedd pen y daith. Yn 1824 nid oedd yn gweithio yn chwarel Aberllefenni ond tri o ddynion, y rhai a dderbynient bymtheg swllt yn yr wythnos o gyflog. Nid wrth y dydd y gweithient; ond os enillent fwy na'r swm uchod, gostyngid y pris; ac ni oddefid i'r cyflog ar un cyfrif fod yn fwy na hyny. Credwn fod chwarelwyr Aberllefenni wedi dioddef yn gyffelyb lawer o flynyddoedd ar ol y cyfnod uchod. Nid ydym yn gwbl sicr o'r adeg y dechreuwyd agor y chwarelau o ddifrif; ond cyn belled ag y gallasom gasglu, yr oedd yn rhywle tua 1825 neu 1826. A diangenrhaid yw ychwanegu mai dyna yr amgylchiad mwyaf pwysig erioed yn hanes yr ardaloedd hyn. Dyma yr adeg y dechreuodd dynion o leoedd eraill, ac yn enwedig o ardaloedd y chwarelau yn Arfon, ddylifo i'r gymydogaeth i weithio, ac y