3. Holwyddori plant yr ysgolion yn Hanes Iesu Grist, gan y Parch. W. Williams, Corris.
4. Anerchiad gan Mr. David Rowlands, Pennal, i'r plant, a chyflwyno y Tystysgrifau.
5. "Anthem yr Ysgol Sabbothol" (Jenkins).
CYFARFOD YR HWYR.
Llywydd. Y Parch. W. Davies, Llanegryn.
1. Ton-"Aberdare."
2. Anerchiad gan y Llywydd.
3. Anerchiad gan y Parch. R. E. Morris, B.A., ar "Y Bibl Cymraeg."
4. Tôn "Ein Cadarn Dwr."
5. Anerchiad gan y Parch. W. Williams, Corris, ar "Gysylltiad Mr. Charles â'r Ysgol Sabbothol."
6. Hanes yr Ysgol Sabbothol yn y dosbarth, gan y Parch. R. Owen, M.A., Pennal.
7. Anthem-"Yr Arglwydd Ior."
8. Anerchiad gan y Parch. J. H. Symond, Towyn, ar "Gysylltiad Addysg Deuluaidd âg Addysg yr Ysgol Sul."
9. Anerchiad gan y Parch. J. Owen, Aberllefeni, ar "Ein gwaith yn y dyfodol."
10. "Haleliwia" Chorus.
Gan fod y gymanfa flynyddol a'r wyl yn cael eu cynal yr un adeg, yr oedd llawer iawn o waith i fyned trwyddo. Nos. Fawrth, Mehefin 16eg, cynhaliwyd cyfarfod cynwysedig o athrawon, cynrychiolwyr yr ysgolion, a gweinidogion y dosbarth, i fwrw golwg dros y cyfrifon, ethol swyddogion, a gwneuthur trefniadau am y flwyddyn ddyfodol. Dydd Mercher y cynhaliwyd y cyfarfod cyhoeddus cyntaf, am ddeg o'r gloch. Llywyddwyd gan Mr. H. Ll. Jones, C.M., Corris. Dechreuwyd y cyfarfod gan y Parch. G. Evans, Bryncrug. Rhanwyd yn agos i 7p. yn wobrwyon am lafur y flwyddyn, rhwng